BethDysgu Maths Bellach
PwyBlwyddyn 12 ac 13
PrydHydref 2022
SutCaiff y gwersi eu cynnal ar-lein a chymerir dull dysgu cyfunol
I archebufmspwales@swansea.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru yn darparu hyfforddiant i fyfyrwyr sydd methu cael mynediad at fodiwlau Mathemateg Bellach CBAC yn eu hysgol neu goleg. Os oes gennych fyfyrwyr a hoffai astudio Mathemateg Bellach, cewch drefnu hyfforddiant trwy Raglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23 croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13.

Unedau ar gael – FM Uned 1 (Pur Bellach), FM Uned 2 (Ystadegaeth) a FM Uned 3 (Mecaneg), FM Uned 4 (Pur Bellach), Uned 5 (Ystadegaeth), Uned 6 (Mecaneg). Bydd rhaid i fyfyrwyr a fydd yn cwblhau lefel A llawn mewn Mathemateg Bellach i gwblhau naill ai Uned 5 (Ystadegaeth) neu Uned 6 (Mecaneg).


Dyddiadau cychwyn – Mae hyfforddiant Tymor yr Hydref yn cychwyn ym mis Hydref. Mae hyfforddiant Tymor y Gwanwyn yn cychwyn ym mis Ionawr. Gellir trefnu cychwyn yn gynnar neu’n hwyr ar gyfer ysgol os oes tri neu fwy o fyfyrwyr yn dilyn yr un modiwl.


Cost yr hyfforddiant – Bydd Unedau 1 – 3 yn parhau i gael ei godi o £202.00 am bob modiwl. Bydd Uned 4 yn costio £364.00 a bydd Uned 5 neu Uned 6 yn costio £242.00 Sawl awr gyswllt gaiff y myfyrwyr? – Bydd pob myfyriwr yn derbyn tua 16 o oriau cyswllt ar gyfer pob Uned 2 (Ystadegaeth), Uned 3 (Mecaneg), Uned 5 (Ystadegau Bellach) ac Uned 6 (Mecaneg Bellach). Bydd pob myfyriwr yn derbyn tua 22 o oriau cyswllt ar gyfer pob Uned 1 (Pur) ac ar gyfer Uned 4 (Pur Bellach).

Cwestiynau a ofynnir yn aml:

Ble fydd yr hyfforddi? Bydd hyfforddiant yn digwydd ar-lein a bydd yn cynnwys ffordd o ddysgu cymysgiedig.
Pwy fydd yn darparu llyfrau a deunyddiau astudio i fyfyrwyr? Bydd llyfrau testun a deunyddiau astudio yn cael eu benthyg gan FMSP Cymru a bydd angen dychwelyd y rhain erbyn diwedd mis Gorffennaf bob blwyddyn. Caiff myfyrwyr fynediad am ddim i adnoddau Integral ar-lein hefyd.
Oes isaf swm o fyfyrwyr angen eu cofrestru ym mhob ysgol? Nac oes, cewch gofrestru cymaint o fyfyrwyr ag sydd angen. Oes isafswm o fodiwlau y dylai pob myfyriwr gofrestru arnynt? Rhaid i fyfyrwyr astudio 3 modiwl i dderbyn cymhwyster AS, a 2 modiwl yn ychwanegol i dderbyn cymhwyster lefel-A llawn. Cewch gofrestru myfyrwyr i astudio gyda’r Rhaglen am un neu fwy o fodiwlau, gan ddibynnu ar eich gallu i ddarparu rhai o’r modiwlau yn eich sefydliad eich hunain.