Gwersyll
Rhyngwladol
Mathemateg

BethGwersyll Mathemateg Ryngwladol i fyfyrwyr o Gymru, UDA, Japan a’r Almaen. Bydd y problemau mathemateg yn seiliedig ar syniadau mathemateg modern ac maent yn addas ar gyfer unrhyw fyfyriwr ysgol canol/uwchradd uwch brwd. Anogir myfyrwyr i ryngweithio â myfyrwyr o wahanol wledydd. Cynhelir pob sesiwn yn Saesneg. Gweler rhai problemau o wersylloedd blaenorol yma   http://furthermaths.wales/cy/bydoedd/
PamMyfyrwyr oed 15+ gyda diddordeb brwd mewn mathemateg
PrydDydd Sadwrn 3ydd o Fedi (9:00-12:00) a dydd Sadwrn 10fed o Fedi (15:00-18:00) 2022
SutAr-lein 
I archebue.w.clode@bangor.ac.uk

Mwy o wybpdaeth

Annwyl athro

Mae croeso i fyfyrwyr o Gymru ymuno â gwersyll mathemateg ar-lein ryngwladol i weithio ar broblemau mathemateg ochr yn ochr â myfyrwyr ac academyddion o Awstralia, Japan, UDA a’r Almaen. Bydd y gwersylloedd yn cael eu rhedeg ar-lein gan ddefnyddio ZOOM. Bydd myfyrwyr yn mynychu dwy o dair sesiwn (yn dibynnu ar leoliad). Mae pob sesiwn yn cynnwys dau Fyd Mathemateg. Mae pob sesiwn yn 3 awr. Bydd y gweithgareddau i fyfyrwyr o Gymru yn digwydd ar ddydd Sadwrn 3 Medi (9:00-12:00) a dydd Sadwrn 10fed Medi (15:00-18:00). Bydd myfyrwyr o Gymru yn cael eu goruchwylio gan academyddion o Brifysgol Abertawe, dim ond 30 o leoedd sydd ar gael ar draws pob gwlad. I wneud cais, ebostiwch y cyfeiriad isod i gael rhagor o wybodaeth a ffurflen caniatâd rhieni. Rhaid i fyfyrwyr fod yn 15+ oed gyda diddordeb brwd mewn mathemateg. Mae’r gwersyll yn rhad ac am ddim. Mae croeso i’r athrawon fynychu ochr yn ochr â’u myfyrwyr (hyd at 5 myfyriwr). Gweler rhai problemau o wersylloedd blaenorol yma http://furthermaths.wales/cy/bydoedd/ I wneud cais am y digwyddiad cyffroes yma e-bostiwch e.w.clode@bangor.ac.uk gyda enwau eich myfyrwyr