Ar Gyfer Disgyblion Galluog A Thalentog Blwyddyn 9

Hoffwn eich gwahodd i enwebu disgyblion sy’n alluog mewn mathemateg i fynychu Dosbarthiadau Meistr Mathemateg y Sefydliad Brenhinol i’w gynnal ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd yn gyfres o 5 dosbarth ar ddyddiau Sadwrn yn ystad tymor y Gwanwyn 2023 o 9:40 nes hanner dydd ar 4 a 11 o Chwefror, 4, 11 a’r 18 o Fawrth 2023.
Bydd tua 120 o leoedd ar gael i gyd. Bydd pob un o’r lleoedd yn cael eu rhoi ar sail yr un gwahoddiad hwn ac mae DAU le wedi’i warantu i bob ysgol. Amgaeir ffurflen enwebu i chi gael restru hyd at bump o ddisgyblion yr hoffech i fynychu. Efallai y bydd y galw am leoedd yn fwy na’r nifer sydd ar gael er y byddaf yn ceisio cynnig lle i bob disgybl sy’n cael ei enwebu. Os ydych yn enwebu mwy na dau ddisgybl a fyddech gystal â’u rhoi mewn trefn blaenoriaeth fel y gallwn gynnig lleoedd heb gysylltu â chi.
Ar ôl derbyn eich ffurflen enwebu, byddwch yn derbyn tudalen o wybodaeth am y dosbarthiadau a ffurflen caniatâd rhieni; a fyddech gystal â dyblygu’r rhain yn ôl yr angen a’u dosbarthu i blant sydd â diddordeb yn y band oedran cywir, hy Blwyddyn 9 yn 2022/23. Er ein bod yn anelu at sefydlu awyrgylch gweithio pleserus, a fyddech gystal â phwysleisio i’ch disgyblion mai y rhai a fydd yn cael y budd mwyaf yw’r disgyblion hynny sy’n talu sylw ac yn gweithio’n galed.
Cysylltwch â Hayley Owen ar hao9@aber.ac.uk i ofyn am ffurflen enwebu.
A fyddech gystal â dychwelyd y ffurflen enwebu a ffurflenni caniatâd rhieni cyn dydd Iau 12fed o Ionawr 2023 (manylion cyswllt ar y ffurflen enwebu).
Gellir e-bostio’r ffurflenni enwebu o flaen llaw os dymunir. Gellir dychwelyd y ffurflenni caniatâd rhieni naill ai drwy’r post i Hayley Owen, RhGMBCymru, MP 2:48 Adeilad y Gwyddorau Ffisegol, Prifysgol Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth, SY23 3BT, neu eu harwyddo, eu sganio a’i e-bostio yn ôl i Hayley hao9@aber.ac.uk. Mae croeso i holl athrawon mathemateg i fynychu unrhyw un neu bob un o’r dosbarthiaau meistr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Hayley Owen hao9@aber.ac.uk drwy ebost.
Yr eiddoch yn gywir
Sofya Lyakhova
FMSP Wales Coordinator