Mynd i'r cynnwys
BethDesmos Ar Alw
PwyAthrawon CA3, CA4 a CA5
PrydAr Alw
SutAr Alw
I archeburhgmc-mspw@swansea.ac.uk

Rhagor o wybodaeth

Mae RhGMC yn falch o allu cynnig cyrsiau ar gymhwyso DESMOS mewn addysgu CA3, CA4 a CA5.

Eleni byddwn yn cynnig y cyrsiau hyn mewn fformat Ar Alw. Mae’r dull Ar Alw newydd hwn yn opsiwn astudio ar-lein hyblyg, sy’n defnyddio amrywiaeth o ffyrdd dysgu fel fideos darlithoedd dan arweiniad tiwtor ac adnoddau pecynnau gwaith i adeiladu eich sgiliau a chadarnhau eich dealltwriaeth. Bydd cymorth hefyd ar gael i gyfranogwyr drwy e-bost, ac o bosibl sesiynau byw ar-lein.

Mae’r cwrs DESMOS yn addas ar gyfer newydd-ddyfodiaid llwyr i’r feddalwedd, a’r rhai sydd â rhywfaint o brofiad eisoes ac a hoffai wella eu sgiliau, neu a hoffai gael sesiwn gloywi.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei ardystio. Er mwyn derbyn Tystysgrif, bydd disgwyl i gyfranogwyr fynychu o leiaf un o’r sesiynau a chwblhau, i lefel foddhaol, dasg wedi’i hasesu sy’n cynnwys dylunio rhaglennig DESMOS syml ac ymwybyddiaeth o sut y gellir ei defnyddio o fewn y rhaglen addysgu.

Byddwch yn cael eich cofrestru ar sianel Microsoft Teams sy’n cael ei monitro lle bydd cyfarwyddiadau llawn yn eich arwain trwy’r cwrs ar eich cyflymder eich hun.

Mae cyfle yn sianel Teams i gydweithio ag eraill sy’n gwneud y cwrs a fforwm lle gallwch drafod materion ac addysgeg y pynciau.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r cwrs a’i fod yn ategu ac yn cyfrannu at eich rhaglen datblygiad personol.

I ymuno â’n cwrs Ar Alw, e-bostiwch rhgmc-mspw@swansea.ac.uk