Dathlu Merched mewn Mathemateg – Coleg Sir Benfro

BethCynhadledd undydd mathemateg yng Ngholeg Sir Benfro
PwyI fyfyrwyr mathemateg blwyddyn 10
Pryd9 Gorffennaf 2024
I archebuhao9@aber.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru yn falch o gyhoeddi cynhadledd undydd yn Ngholeg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1SZ ar gyfer myfyrwyr Mathemateg galluog o ysgolion yng Nghymru. Fe’ch gwahoddir i ddod â 15 o fyfyrwyr o Flwyddyn 10. Y pwyslais fydd y gall mathemateg fod yn hwyl ac yn heriol.

Bydd gweithdai, sgwrs glo a chwis mathemateg gyda gwobrau.

Gobeithio y gallwch ddod â grŵp o tua 15 o fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn mathemateg. Bwriad y diwrnod yw apelio at eich mathemategwyr disgleiriaf ym Mlwyddyn 10.

Ni fydd unrhyw gost am y diwrnod i ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth, ac anfonir manylion pellach fel y gallwch wneud trefniadau ar ol i ni dderbyn y cofrestriad isod.

Eleni dim ond 100 o leoedd sydd gennym a fydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, felly fe’ch cynghorir i archebu’n gynnar.

Eleni rydym yn dathlu Merched mewn Mathemateg ac yn anelu’r diwrnod at fyfyrwyr benywaidd ond mae croeso i fechgyn fynychu hefyd.


I gofrestru anfonwch y wybodaeth isod at Hayley Owen hao9@aber.ac.uk

Enw’r Ysgol:

Enw’r Athro:

Ebost yr athro:

Nifer o fyfyrwyr:

Nifer o staff:

Anfonir cydnabyddiaeth ar ôl derbyn y wybodaeth uchod.