Mynd i'r cynnwys

Mathemateg yw eich Dyfodol

BethCynhadledd Fathemateg ym Mangor
PwyMyfyrwyr galluog ym Mlwyddyn 8 a 9
Pryd28 Mawrth 2023
9:30-14:00
I gofrestrue.w.clode@bangor.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru yn falch o gyhoeddi cynhadledd undydd yn yr ysgol Gyfirifiadureg a Pheirianneg Electronig, Prifysgol Bangor, ar gyfer myfyrwyr Mathemateg galluog o ysgolion yng Nghymru. Fe’ch gwahoddir i ddod â myfyrwyr o Flynyddoedd 8/9. Y pwyslais fydd y gall mathemateg fod yn hwyl ac yn heriol.

Bydd 2 weithdy a sgwrs glo, gyda chystadleuaeth ‘Cwis Mathemateg’ hefyd yn cael ei gynnal yn ystod y dydd, gyda thaleb yn wobr.

Gobeithio gallwch ddod â hyd at 15 o fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn mathemateg. Bwriad y diwrnod yw apelio at eich mathemategwyr disgleiriaf ym Mlwyddyn 8/9.

Ni fydd cost am y diwrnod, ar gyfer ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth, ac anfonir manylion pellach er mwyn i chi allu gwneud trefniadau ar gyfer cludiant, caniatâd i fod yn absennol, caniatâd rhieni, ac ati ac anfon ffurflen gofrestru, a fydd yn cynnwys enwau staff/myfyrwyr fydd yn bwriadu mynychu.

Eleni dim ond 100 o leoedd sydd gennym a fydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, felly archebwch yn fuan.

Lle bo modd, a wnewch ch sicrhau fod rhaniad cyfartal rhwng myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd os gwelwch yn dda?

Anfonir cydnabyddiaeth ar ôl derbyn y wybodaeth isod. Dyddiad Cau: 3 Mawrth 2023

Ebost:

Hoffem fynychu’r gynhadledd ym Mhrifysgol Bangor / We wish to attend the conference at Bangor University:

Enw’r ysgol/coleg Name of school/college  
Cyswllt / Contact  
Ebost / Email  
Nifer y Staff No. Staff
Nifer y Myfyrwyr No. students