Cynhadledd Abertawe mis Ionawr: Blwyddyn 10 Mae Mathemateg yn Hwyl

BethCynhadledd Fathemateg yng Abertawe
PwyMyfyrwyr galluog ym Mlwyddyn 10
Pryd24eg Ionawr 2023
9:30-14:30
I gofrestrub.h.denyer@swansea.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru yn falch o gyhoeddi cynhadledd undydd yn y Ffowndri Gyfrifiadurol, Prifysgol Abertawe, Campws y Bae, ar gyfer myfyrwyr Mathemateg galluog o ysgolion yng Nghymru. Fe’ch gwahoddir i ddod ag 20 o fyfyrwyr o Flwyddyn 10. Y pwyslais fydd y gall mathemateg fod yn hwyl ac yn heriol.

Bydd 2/3 o weithdai a sgwrs glo, yn ogystal â ‘Cwis Mathemateg’ a fydd hefyd yn cael ei gynnal ar y diwrnod, gyda thaleb yn wobr.

Gobeithio y gallwch ddod â grŵp o tua 20 o fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn mathemateg. Bwriad y diwrnod yw apelio at eich mathemategwyr disgleiriaf ym Mlwyddyn 10.

Ni fydd unrhyw gost am y diwrnod, ar gyfer ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth, ac anfonir manylion pellach fel y gallwch wneud trefniadau ar ol i ni dderbyn y cofrestriad isod.

Eleni dim ond 180 o leoedd sydd gennym a fydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, felly fe’ch cynghorir i archebu’n gynnar.

Lle bo modd, sicrhewch fod rhaniad cyfartal rhwng myfyrwyr gwyrwaidd a benywaidd.

Anfonir cydnabyddiaeth ar ôl derbyn y wybodaeth isod. Dyddiad Cau: 23 Rhagfyr 2022

Ebost:

Hoffem fynychu’r gynhadledd ym Mhrifysgol Abertawe / We wish to attend the conference at Swansea University:

Enw’r ysgol/coleg Name of school/college  
Cyswllt / Contact  
Ebost / Email  
Nifer y Staff No. Staff
Nifer y Myfyrwyr No. students