Cyfres Pontio Mathemateg i Brifysgol 23/24

Mae RhGMB Cymru yn cynnal cyfres gyffrous o gyflwyniadau wedi’u recordio ymlaen llaw a fydd yn galluogi myfyrwyr blwyddyn 13 i bontio tuag at astudio pynciau STEM yn y Brifysgol. Anaml y bydd amser yn ystod fframwaith addysgu ysgolion i weld sut y gellir defnyddio Hafaliadau Differol i fodelu epidemigau; neu i ymchwilio sut mae Rhifau Cymhlyg yn cynhyrchu’r set anhygoel Mandelbrot. Mae’r cwrs presennol yn gyfle i gysylltu ag Addysg Uwch i elwa o’u gwybodaeth ddofn o’r pwnc a’u cynefindra agos â mathemateg ar lefel prifysgol. Argymhellir y rhaglen i unrhyw fyfyrwyr sy’n ystyried cymryd gradd sy’n cynnwys llawer o fathemateg ym mis Medi 2024.  

Mae mwyafrif y sgyrsiau’n cael eu paratoi gan academyddion mathemateg ac mae ychydig o sgyrsiau’n ystyried disgyblaeth stem arall lle mae mathemateg yn chwarae rhan bwysig, fel ffiseg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol neu beirianneg. Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio ymlaen llaw ac oddeutu 30 munud o hyd a bydd pob un ar gael am gyfnod cyfyngedig. Bydd cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau i’r darlithydd am y cyflwyniad trwy e-bost.

Gofynnwn i athrawon goladu manylion y myfyrwyr sydd â diddordeb a chofrestru yma: https://hub.furthermaths.wales/book-event.php?event_id=15

Am unrhyw gwestiynau eraill ebostiwch FMSPWales@swansea.ac.uk

Bydd y fideo cyntaf yn cael ei ryddhau ar y 29ain o Dachwedd ac yna bob wythnos tan Pasg 2024.

Mae’r sesiynau hyn am ddim i bob disgybl mewn ysgolion/colegau a Ariennir gan y Wladwriaeth yng Nghymru