Cyflwyniad i brofion derbyn y brifysgol STEP, MAT a TMUA

BethSesiwn awr yn cyflwyno profion derbyn y brifysgol STEP, MAT a TMUA
PamAr gyfer disgyblion B12 sy’n ystyried gwneud cais i gyrsiau prifysgol sy’n seiliedig ar STEM
PrydDydd Llun 26 Mehefin 4:30-5:30
SutAr lein ar Teams
I archebuFfuflen gofrestru https://forms.gle/CjZAKN1sfSw4UjhS7

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio’n bennaf ar STEP a TMUA, gan fod y MAT yn cael ei gyflwyno yn ein fideo 20 munud https://furthermaths.wales/intromat/ ar ein gwefan, ac mae hefyd wedi’i gyflwyno’n ddiweddar i lawer o fyfyrwyr Seren yng Nghymru. Bydd y sesiwn yn gyfle i glywed am ba brifysgolion sy’n defnyddio’r profion hyn, rhoi cynnig ar rai cwestiynau prawf gyda’n gilydd, cael cyngor ar fynd i’r afael â’r math hwn o gwestiynau, cael awgrymiadau am adnoddau ar-lein defnyddiol ac awgrymiadau ar sut i baratoi dros yr haf. Croeso i bob myfyriwr.

Mae’r sesiwn yn fyw ar Teams. Cwblhewch y ffurflen ar-lein gyda chaniatâd rhieni yma:  https://forms.gle/FHqVssTSYvi5Uasm7 . Am unrhyw gwestiynau ebostiwch e.w.clode@bangor.ac.uk