Tudalen Gweithgaredd Merched mewn Mathemateg


Gweithgaredd Poster Diwrnod Rhyngwladol y Menywod!

Lawrlwythwch ac argraffwch y templed ar gyfer y 6 mathemategydd benywaidd enwog!

Gofynnwch i fyfyrwyr gwblhau poster yn manylu cymaint o wybodaeth ag y gallant am y mathemategydd.

Gallai hyn gynnwys:

  • Pwy oedden nhw… beth oedd eu henw, faint oedd eu hoedran, o ble roedden nhw’n dod?
  • Beth wnaethon nhw … am beth maen nhw’n enwog yn fathemategol? A allwch chi roi enghraifft o hyn? Beth oedd eu camp nodedig?
  • Pryd oedden nhw’n gwneud eu gwaith mathemategol… … beth oedd/yw cyd-destun cymdeithasol neu fathemategol yr adeg pan oeddent yn gwneud eu darganfyddiadau? A oedd yn anarferol ar yr adeg hon i fod yn fathemategydd benywaidd? Oedden nhw’n ei chael hi’n anodd bod yn fathemategydd?
  • Beth arall…?
  • Sut ddechreuon nhw wneud mathemateg? Beth wnaeth eu hysbrydoli? Pwy ysbrydolodd nhw?
  • Allwch chi ddarganfod unrhyw beth anarferol amdanyn nhw?
  • Byddai cymaint o wybodaeth â phosibl ar y posteri hyn yn wych!

Anfonwch eich lluniau atom i fmspw@swansea.ac.uk pan fydd gennych weithiau i’w rhannu a/neu drydarwch ni yn @RhGMBC_FMSPW i ddangos y gwaith da!

Mae’r holl fathemategwyr dan sylw i’w gweld ar ein gwefan!


Gwestai Dirgel Diwrnod Rhyngwladol y Merched!

Os dymunwch – lawrlwythwch ac argraffwch y daflen waith ategol i’w gwneud ochr yn ochr â gwylio’r fideo.


Katie Steckles yn cyflwyno Theorem Plygu a Thorri


Mae gan Zoe Griffiths lond gwlad o arian!

Dewch i weld beth sydd gan Zoe i’w ddweud am ryfeddodau bod yn Fathemategydd. Yna edrychwch a allwch chi ddatrys ei phos!


Pos Dyddiad DRhM2022 Sofya Lyakhova


Her Mathemategwyr Benywaidd

Edrychwch ar rai o’r mathemategwyr benywaidd enwocaf gyda’r gweithgaredd llinell amser torri a gludo yma.


Daina Taimina

O: Lativa

Ganwyd: 1954 – Presennol

Derbyniodd ei doethuriaeth mewn mathemateg o Brifysgol Latfia. Mae ei gwaith crosio o siapiau parabolig wedi cael ei gynnwys mewn llawer o gasgliadau gan gynnwys y Smithsonian a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Wobr Euler am ei llyfrau mathemategol Crocheted Adventures with Hyperbolic  Planes.


Mary Wynne Warner

O: Gaerfyrddin

Ganwyd: 22 Mehefin 1932 Bu farw: 1 Ebrill 1998

Mathemategydd a oedd yn gweithio ym meysydd topoleg a rhesymeg fuzzy. Yr unig fathemategydd Cymreig benywaidd hyd yn hyn i dderbyn clod am ei chyflawniadau.


Ingrid Daubechies

O: Wlad Belg

Ganwyd: 1954 – Presennol

Er mwyn dadansoddi signal delwedd, sain, olrhain electrocardiogram, neu hyd yn oed nwy cythryblus, rhaid ei dorri i lawr yn rhannau symlach. Y rhannau y mae gwyddonwyr a pheirianwyr yn eu defnyddio yw tonnau Daubechies – blociau adeiladu mathemategol a ddefnyddir hefyd ar gyfer cywasgu data ac amgryptio.


Evelyn Boyd Granville

O: Washington

Ganwyd: 1924 – Presennol

Hi oedd yr ail fenyw Affricanaidd-Americanaidd i ennill ei Ph.D. mewn Mathemateg


Maryam Mirzakhani

O: Iran

Ganwyd: 12 Mai 1977  Bu farw: 13 Gorffennaf 2017

Y myfyriwr cyntaf o Iran i gyflawni sgôr perffaith ac ennill dwy fedal aur yn y Olympiad Mathemategol Rhyngwladol . Yn 2014 hi oedd y fenyw gyntaf erioed i dderbyn y Fedal Fields, a ddisgrifir weithiau fel gwobr Nobel ar gyfer mathemateg.


Julia Robinson

O: Unol Daleithau

Ganwyd: 8 Rhagfyr 1919 Bu farw: 30 Gorffennaf 1985

Canolbwyntiodd ar broblemau penderfyniad trwy ei gyrfa. Mae ei chyfraniad mwyaf enwog yn gwrthbrofi Degfed Problem Hilbert – a oedd yn ymdrech a gymerodd ddegawdau gyda nifer o bobl ac yn enghraifft prin o gydweithredu rhwng fathemategwyr Americanaidd a Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer


Maria Gaetana Agnesi

O: Milan

Ganwyd: 16 Mai 1718 Bu farw: 9 Ionawr 1799

Mathemategydd, athronydd, diwinydd a pherson dyngarol. Y ferch gyntaf i ysgrifennu gwerslyfr mathemateg, a’r wraig gyntaf a benodwyd fel athro mathemateg mewn prifysgol.


Yvonne Choquet-Bruhat

O: Lille, Ffrainc

Ganwyd: 1923 – presennol

Mathemategydd a ffisegydd, arbenigwr mewn perthynoledd cyffredinol sy’n profi bodolaeth leol ac unigrywiaeth atebion i wactod Hafaliadau Einstein.


Joan Clarke

O: Lundain

Ganwyd: 24 Mehefin 1917 Bu farw: 4 Medi 1996

Torrwr cod Bletchley Park a oedd yn gweithio gyda Alan Turing ac eraill yn torri cipher Enigma yr Almaen a dulliau cêl-ysgrifennu eraill. Daeth yn ymchwilydd yn niwmismateg (yr astudiaeth o ddarnau arian a’u hanes) yn ddiweddarach yn ei bywyd.


Sophie Germain

O: Baris

Ganwyd: 1 Ebrill 1776 Bu farw: 27 Mehefin 1831

Mathemategydd, ffisegydd ac athronydd. Roedd yn arloesi mewn theori elastigedd ac ymdrechion i brofi Theorem Diwethaf Fermat, gan ddefnyddio rhifau cysefin Germain: rhifau cysefin p ble mae 2p + 1 hefyd yn gysefin (e.e. 5, fel y 2 x 5 + 1 = 11). Cuddiodd ei rhyw o dan y ffugenw “Monsieur Le Blanc” am gyfnod.


Ada Lovelace

O: Lundain

Ganwyd: 10 Rhagfyr 1815 Bu farw: 27 Tachwedd 1852

Mathemategydd ac awdur enwog am ei gwaith gyda Charles Babbage ar ei Beiriant Dadansoddol. Ystyrir hi yn aml fel awdur rhaglen gyfrifiadurol cynharaf y byd, ac mae iaith raglenni  Ada wedi ei henwi ar ei hôl.


Emmy Noether

O: Erlangen, Germany

Ganwyd: 23 Mawrth 1882 Bu farw: 14 Ebrill 1935

Wedi’i disgrifio fel “y mathemategydd benywaidd gorau erioed”, gwnaeth ddatblygiadau mawr mewn algebra haniaethol, tra bod Theorem Noether yn chwarae rhan enfawr mewn deddfau cadwraeth mewn ffiseg.


Florence Nightingale

O: Fflorens

Ganwyd: 12 Mai 1820 Bu farw: 13 Awst 1910

Yn fwyaf enwog fel nyrs, ond hyfforddodd i ddechrau fel mathemategydd – arloeswr yn y defnydd o graffeg mewn ystadegau, chwaraeodd ei diagramau ran fawr wrth argyhoeddi Llywodraeth Prydain i anfon mwy o nyrsys i Ryfel y Crimea a gwella cyflyrau meddygol yno.


Dr Hannah Fry

O: Harlow

Ganwyd: 21 Chwefror 1984 – presennol

Graddiodd o Goleg Prifysgol Llundain, ac mae gan Hannah Fry ddoethuriaeth mewn dynameg hylif. Ymhlith pethau eraill mae hi wedi ysgrifennu sawl llyfr a hefyd wedi cyflwyno Darlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol yn 2019. Yn ddiweddar, fe’i penodwyd yn Athro ym Mathemateg Dinasoedd.


Katie Steckles

Mae Katie Steckles yn fathemategydd wedi’i lleoli ym Manceinion, sy’n rhoi sgyrsiau a gweithdai ac yn ysgrifennu am fathemateg. Gorffennodd ei doethuriaeth yn 2011, ac ers hynny mae wedi siarad am fathemateg mewn prifysgolion, digwyddiadau i ysgolion, gwyliau, ar radio a theledu’r BBC, mewn llyfrau ac ar y rhyngrwyd.


Zoe Griffiths

Mae Zoe Griffiths yn fathamategydd ac yn gyn-athrawes sy’n teithio’r DU ac yn rhyngwladol yn rhoi sgyrsiau am fathemateg. Mae hi wedi siarad am fathemateg mewn llefydd yn amrywio o Ŵyl Wyddoniaeth Cheltenham i Radio 4 BBC. Hoff rif Zoe yw i ac mae hi wedi bod yn adnabyddus am bobi cacennau mathemategol ac ysgrifennu barddoniaeth fathemategol.


Chi

O: Gymru!

Ganwyd: O’r dyddiad heddiw – tynnwch eich oedran.

Gallai fod yn chi! Rydych chi’n Fathemategydd! Y cwestiwn yw … ydych chi eisiau bod yn un pan fyddwch chi’n tyfu i fyny? Beth bynnag fo’ch rhyw, oedran neu ethnigrwydd mae’r byd mathemategol yn aros amdanoch chi. Gwnewch yr holl fathemateg y gallwch ac mae’r posibiliadau yn ddi-ben draw!


Darlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol 2019

Os nad ydych erioed wedi clywed am y Darlithoedd Nadolig, cymerwch olwg ar gyfres 2019 isod a roddwyd gan Dr Hannah Fry. Mae’r holl ddarlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol ar gael yma.

Darlith Gyntaf

Ail Ddarlith

Trydydd Ddarlith