MATHEMATEG YCHWANEGOL
Rydym wedi creu cwrs Desmos y gall athrawon ei ddefnyddio i ddysgu Mathemateg Ychwanegol CBAC. Mae hwn ar gael i’r holl athrawon sydd wedi cofrestru gyda ni.
Cynllun Gwaith RhGMBC
Dyma Gynllun Gwaith llawn ar gyfer Mathemateg a Mathemateg Bellach Safon Uwch. Ar gael i holl ysgolion a cholegau’r wladwriaeth yng Nghymru. Am ddolenni, cofrestrwch gyda RhGMC.
Yn gynwysedig yn y Cynllun Gwaith mae:
- Rhaglenni Astudio, wedi’u rhannu’n 4 hanner tymor
- Map Mind yn dangos cysylltiadau TGAU hyd at Fathemateg Bellach A2
- Taenlen Feistr gydag amcanion dysgu, gwybodaeth flaenorol a phynciau dibynnol
- Cynlluniau is-bwnc gydag addysgeg ac adnoddau eraill
- Ymarferion ac adnoddau addysgu
- 3 set o Bapurau Ymarfer
- Pwerbwyntiau a Fideos Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered Mathemateg Bellach
- Pwerbwyntiau a Fideos Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered Mathemateg (cynllunnir i gwblhau Medi 2021)
- Fideos Adolygu Cwestiynau Arholiad Mathemateg Safon Uwch
- Fideos Adolygu Mathemateg Bellach Safon Uwch
- Pwerbwyntiau Dysgu Proffesiynol Mathemateg Bellach
Fideos Safon Uwch: Mathemateg a Mathemateg Bellach
Mae’r Fideos Adolygu Mathemateg UG yn atebion wedi’u gweithio i’r cwestiynau arholiad ond yn ogystal â dangos ‘ateb enghreifftiol’, rydym yn defnyddio’r cwestiynau ac yn ychwanegu atebion amgen, proflenni ac ati i ddatblygu eich dealltwriaeth ac i’ch helpu i baratoi ar gyfer astudiaeth A2.
Mae’r Fideos Adolygu Mathemateg A2 yn atebion wedi’u gweithio i’r cwestiynau arholiad ond yn ogystal â dangos ‘ateb enghreifftiol’, rydyn ni’n defnyddio’r cwestiynau ac yn ychwanegu atebion amgen, proflenni ac ati i ddatblygu eich dealltwriaeth ac i’ch helpu chi i baratoi ar gyfer Mathemateg Bellach neu astudiaeth bellach arall.
Mae’r Fideos Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered ar gael i fyfyrwyr trwy YouTube. Mae taenlenni gyda dolenni ar gyfer y fideos hyn wedi’u cynnwys yn yr Ardal Athrawon. Hefyd ar gael i athrawon mae’r pwerbwyntiau y mae’r fideos yn cael eu gwneud ohonynt. Gall athrawon olygu’r rhain ac yna eu defnyddio i greu fideos eu hunain.
Integral
Ar wefan adnoddau Integral mae ysgolion a cholegau sydd wedi’u cofrestru gyda’r RhGMC yn cael mynediad am ddim i filoedd o dudalennau o adnoddau dysgu, gan gynnwys cannoedd o adnoddau rhyngweithiol ac asesiadau amlddewis ar gyfer modiwlau mathemateg cymhwysol a pellach. Yn ogystal â hyn mae deunyddiau ar gyfer Mathemateg Ychwanegol OCR (sy’n debyg i Fathemateg Ychwanegol CBAC) ac adnoddau datrys problemau TGAU. Mae adnoddau ar-lein Integral yn cefnogi dysgu Mathemateg Safon Uwch a Mathemateg Bellach CBAC a manylebau eraill. Mae’r wefan yn cynnwys miloedd o dudalennau o adnoddau gyda channoedd o adnoddau rhyngweithiol ac asesiadau amlddewis.
Mynediad i fyfyrwyr RhGMC
Mae gan fyfyrwyr sy’n cael eu tiwtora gan y RhGMC fynediad i Integral i’w cefnogi yn eu hastudiaethau.
Mynediad am ddim i ysgolion a cholegau cofrestredig
Mae ysgolion a cholegau sy’n cofrestru gyda’r Rhaglen Gymorth Mathemateg yn derbyn un cyfrif Integral staff i gael mynediad at adnoddau. Wrth gofrestru gyda’r RhGMC, cytunir y bydd y defnyddiwr yn cadw at y telerau ac amodau a osodwyd gan Integral.
Atgyfnerthu Mathemateg a Mathemateg Bellach Safon Uwch
Cyfres o un ar ddeg o fideos yw’r rhain gyda thaflenni cwestiynau ac atebion cysylltiedig, a gynhyrchwyd gan RhGMC i helpu myfyrwyr i drosglwyddo o TGAU i fathemateg Safon Uwch.
Ymgorffori Gwybodaeth Pwnc ar gyfer Mathemateg Bellach Safon Uwch
Dyma set o bum fideo sy’n cydgrynhoi dealltwriaeth o gysylltiadau mathemategol rhwng Mathemateg Bellach UG ac A2 cliciwch yma
Arholiadau Mynediad Prifysgol
STEP, AEA, TMUA, MAT
Yn ogystal â graddau Safon Uwch, mae rhai prifysgolion hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr basio Papurau Arholiad Chweched Tymor (STEP), Gwobr Estyniad Uwch (AEA) mewn Mathemateg a gymerir ym mis Mehefin. Mae eraill yn gofyn am y Prawf Mathemateg ar gyfer Derbyn i Brifysgol (TMUA) neu’r Prawf Derbyn Mathemateg (MAT) a gymerir ym mis Tachwedd. Mae rhai prifysgolion eraill yn annog myfyrwyr i gymryd y papurau hyn a gallent gynnwys STEP, AEA, TMUA neu MAT yn eu cynigion.
Gall y RhGMBC ddarparu dysgu proffesiynol i gynorthwyo athrawon sy’n helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau datrys problemau ac i baratoi ar gyfer arholiadau STEP, AEA, TMUA a MAT.
Mae’r RhGMC yn darparu cyfres o ddigwyddiadau athrawon a myfyrwyr i gefnogi mathemateg STEP, AEA, TMUA a MAT a datrys problemau yn gyffredinol.
Cyfoethogi
Rydym wedi cynhyrchu nifer o adnoddau a rhaglenni cyfoethogi yr ydym yn eu rhyddhau o bryd i’w gilydd. Bydd fideos ar gyfer y rhain ar youtube pan fyddant ar gael. Gellir gweld manylion ein holl raglenni yma.
Enghreifftiau o raglenni blaenorol: