Mae Vi Hart yn fathemategydd Americanaidd a youtuber. Roedd eu tad yn gerflunydd mathemategol. Mae gan Vi Hart eu sianel youtube eu hun ac mae’n creu llawer o fideos sy’n cyfuno mathemateg a cherddoriaeth.
Meddai Vi…
“Roedd Mathemateg, yn ôl yr arfer, yn fy niflasu heddiw, felly dechreuais ddwdlo. Dechreuais dynnu llun eliffantod, a dechrau chwarae o gwmpas gyda’r syniad o faint o eliffantod fyddai’n ffitio ar dudalen fy llyfr nodiadau. Wrth i mi ddal i dynnu llun, deuthum i’r casgliad pe bawn yn dal i dynnu llun yrr eliffantod yn llai ac yn llai ar draws y dudalen, byddai nifer yr eliffantod yn ddiderfyn. Ailadroddais broses debyg gyda chamelod, ac yna symudais yn y pen draw at ffigurau nad oedd yn siâp mamaliaid, fel sgwariau a thrionglau. Darganfûm, gydag unrhyw siâp penodol, y bydd nifer anfeidrol lai o gylchoedd yn ffitio y tu mewn. Mae hon yn broses ffractal, oherwydd ni waeth ble rydych chi’n chwyddo’r siâp, bydd bob amser yn edrych yr un peth a bydd bob amser yn tyfu’n llai anfeidrol. Eironi’r mater oedd mai pwnc mathemateg heddiw oedd symiau anfeidrol, a dyna’n union yr oeddwn i wedi bod yn ei ddwdlo. Yn union faint o nifer anfeidrol o eliffantod sydd ar fy nhudalen? Sylweddolais eu bod yn tyfu’n agosach ac yn agosach at un. Gellir cymhwyso hyn gan ddefnyddio camelod, neu’n llai diddorol, trionglau, sgwariau, a siapiau amrywiol eraill y gall cylchoedd eu llenwi.”
- Y fenyw gyntaf i gael doethuriaeth mewn mathemateg
- Y fenyw gyntaf i gael proffeswriaeth lawn yng ngogledd Ewrop
- Y fenyw gyntaf i fod yn olygydd cyfnodolyn gwyddonol
Nid yn unig yn fathemategydd gwych ond hefyd yn eiriolwr cryf dros hawliau menywod. Arweiniodd ei brwydr i gael mynediad a chael yr addysg orau bosibl at agor drysau i fenywod mewn prifysgolion. Ar ben hynny, helpodd ei gwaith tuag at ailystyried y syniad o israddoldeb menywod i ddynion mewn astudiaeth wyddonol.
- Er mwyn mynychu prifysgol yn y Swistir, (y brifysgol agosaf a fyddai’n derbyn menywod) roedd yn rhaid i Sofya fod yn briod.
- Ym 1874 derbyniodd Sofya ddoethuriaeth o Brifysgol Gottingen
- Ymhellach ymlaen dechreuodd Sofya ddarlithio ym Mhrifysgol Stockholm.
- Ym 1888 cyhoeddodd y papur “On the Rotation of a Solid Body about a Fixed Point” – roedd y papur hwn mor uchel ei barch fel y cynyddwyd y wobr ariannol o 3000 i 5000 ffranc.
Katherine Johnson
Awst 26 1918 – Chwefror 24 2020

Beth wnaeth hi? Ar beth roedd hi’n gweithio?
- 1953-1958: Roedd Katherine yn gweithio i NACA (a ddisodlwyd yn ddiweddarach gan NASA), teitl ei swydd oedd cyfrifiadur, lle bu’n gweithio fel rhan o grŵp o fenywod oedd yn gwneud cyfrifiadau mathemategol.
- Roedd bod yn gyfrifiadur, yn golygu cyflawni tasgau mathemategol manwl gywir.
- Un diwrnod, gofynnwyd i Katherine i gefnogi tîm ymchwil hedfan o ddynion a phrofodd gwybodaeth Katherine o geometreg ddadansoddol yn amhrisiadwy iddynt.
- Roedd Katherine yn benderfynol a helpodd hyn iddi i sicrhau ei bod yn cael ei chynnwys mewn cyfarfodydd lle byddai rhwystrau hiliol a rhyw yn flaenorol wedi ei hatal rhag mynychu. Roedd Katherine wedi gwneud y gwaith ac roedd hi’n gwybod mai dyma le’r oedd hi’n perthyn.
- Hyd at 1958: Roedd Katherine yn rhan o dîm cyfrifiadurol ar wahân, lle yn unol â chyfreithiau’r wladwriaeth, roedd yn rhaid i fenywod Affricanaidd-Americanaidd weithio, bwyta a defnyddio toiledau ar wahân i’w cyfoedion gwyn.
- Cyfrifodd Katherine lwybr taith yr Americanwr cyntaf yn y gofod ym 1961.
- 1969: Helpodd Katherine i gyfrifo’r llwybr hedfan Apollo 11 i’r Lleuad
Dolenni ar gyfer darllen pellach:
Maryam Mirzakhani
12 Mai 1977 – 14 Gorffennaf July 2017
Maryam Mirzakhani oedd y fenyw gyntaf, Iranaidd gyntaf a Mwslim cyntaf i ennill y Fedal Fields fawreddog mewn mathemateg – sy’n cyfateb i’r wobr Nobel. Mae’r fideo yma yn sôn am ei chefndir a’i gwaith, ac yn cyfeirio at adnoddau i’r rhai sy’n awyddus i gael gwybod mwy. Sleidiau dwyieithog gyda naratif yn Saesneg
Fazila Patel, Werner Olivier, Flora Olivier ac Arnold Gwaze
Mae’r fideo yma yn sôn am ffractalau gan edrych ar waith Fazila Patel, Werner Olivier, Flora Olivier ac Arnold Gwaze gyda enghreifftiau o gelf ac yn cyfeirio at adnoddau i’r rhai sy’n awyddus i gael gwybod mwy. Sleidiau dwyieithog gyda naratif yn Gymraeg (Saesneg yma)
Srinivasa Ramanujan
1887–1920
Mathamategydd o’r India oedd Srinivasa Ramanujan gyda chefndir diddorol iawn. Mae’r fideo yn sôn am ei gefndir ac yn edrych ar ychydig o’r gwaith mathemategol a wnaeth. Naratif Saesneg gydag isdeitlau Cymraeg.