Mae’r Fideos Adolygu TGAU Mathemateg yn rhoi atebion wedi’u gweithio allan i’r cwestiynau arholiad Mehefin 2018 ond yn ogystal â dangos ‘ateb enghreifftiol’, rydym yn defnyddio’r cwestiynau ac yn ychwanegu atebion amgen ynghyd â deunydd bonws i ddatblygu eich dealltwriaeth ac i’ch helpu i ymchwilio yn ddyfnach i fyd rhyfeddol mathemateg.