Amdanom Ni
Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru (RhGMC) yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen wedi’i lleoli yn yr Adran Fathemateg, Prifysgol Abertawe ac mae’n gweithio ar y cyd â phrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Wrecsam Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru. Dechreuodd y Rhaglen yn 2010 yn Ne Orllewin Cymru ac mae wedi ehangu’n raddol i weithredu ledled holl siroedd / rhanbarthau Cymru.
Nod RhGMC yw:
- codi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr a’u rhieni o werth astudio Mathemateg ar lefelau uwch
- cynyddu nifer y myfyrwyr yng Nghymru sy’n astudio Mathemateg UG / A2 a Mathemateg Bellach
- darparu hyfforddiant lefel TAG UG / A2 Mathemateg Bellach i fyfyrwyr na allant gael mynediad at Fathemateg Bellach trwy eu hysgolion neu golegau 11-18 lleol
- cynyddu nifer yr ysgolion a cholegau yng Nghymru sy’n cynnig Mathemateg Bellach
- cynyddu nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n gwneud cais i astudio cyrsiau addysg uwch mewn Mathemateg a phynciau Mathemategol-gyfoethog fel Peirianneg, Ffiseg, TG, Cyllid ac Economeg
- gwella trosglwyddiad myfyrwyr o gyrsiau addysg bellach i gyrsiau addysg uwch mewn Mathemateg neu gyrsiau sydd ag elfen sylweddol o Fathemateg a thrwy hynny fod o fudd i’r economi ehangach
Tuag at y nodau hyn rydym ni’n:
- Hyrwyddo Mathemateg Bellach
- Cynnig Hyfforddiant a chymorth arall i fyfyrwyr
- Cynhyrchu adnoddau addysgu am ddim i athrawon
- Darparu deunyddiau a digwyddiadau cyfoethogi
- Darparu Dysgu Proffesiynol
- Cynnal Ymchwil a hyrwyddo arfer Arloesol
Gweler Beth mae RhGMC yn ei wneud i gael rhagor o fanylion am y gweithgareddau hyn.
Ein Cydlynwyr Ardal
Sofya Lyakhova E-bost | Arweinydd Rhaglen RhGMC Darlithydd cyswllt Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe ac wedi arwain y rhaglen ers 2010. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Mathemateg o Brifysgol Bryste a TAR o Brifysgol Fetropolitan Abertawe. Wedi gweithio mewn diwydiant ac addysg cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2010. |
Theresa Hendy E-bost | Arweinydd Dysgu Proffesiynol RhGMC Cydlynydd RhGMC Ardal Gorllewin Cymru Gyrfa ddysgu yn ymestyn dros 30 mlynedd. I ddechrau bu’n dysgu mathemateg mewn ysgol uwchradd a pharhaodd mewn Addysg Bellach gan gynnwys bod yn Bennaeth Adran ac Arweinydd Cwricwlwm mathemateg a gwyddoniaeth, yn ogystal â dysgu sgiliau sylfaenol a mynediad i gyrsiau AU i oedolion. Ymunodd â thîm RhGMC yn 2010 fel tiwtor i ddechrau, cyn cael ei phenodi’n Gydlynydd Ardal yn ddiweddar. Mae ganddi MA mewn Addysg. Mae’n frwd dros annog deialog rhwng cyfoedion mewn ystafell ddosbarth draddodiadol a bu’n gweithio fel athro-ymchwilydd i’r Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg yng Nghymru yn 2016. |
Dominic Oakes E-bost | Cydlynydd Adnoddau ac Ymchwil RhGMC, Cydlynydd Ardal Gogledd Cymru Cymhwysodd fel athro Mathemateg ym 1992. Wedi dysgu mewn ystod o ysgolion – canol dinas, maestrefol, gwledig. Pennaeth Mathemateg. Cydlynydd Cyflawniad CA3. UDA, Asesu a Chyflawniad. Ymgynghoriaeth: CfEM, Tribal, YDP Gwlad Pwyl, TES, MAT Cynradd. Cynghorydd Mathemateg a Rhifedd MDPh. Diddordebau ymchwil: Cysylltiadau mewn dylunio cwricwlwm Mathemateg, Dull Dosbarth Wyneb i Waered |
Francis Hunt E-bost | Cydlynydd Ardal Canolbarth y De RhGMC Wedi gweithio fel peiriannydd meddalwedd cyn dysgu mathemateg a gwneud ymchwil yn Adran Beirianneg Prifysgol Caergrawnt rhwng 1999 a 2006, gan gyfweld â myfyrwyr peirianneg ar gyfer colegau Newnham a Wolfson. Wedi gweithio fel darlithydd mathemateg ym Mhrifysgol De Cymru rhwng 2006 a 2019, cyn ymuno â’r RhGMBC yn 2020. Wedi rhoi Dosbarthiadau Meistr Mathemateg y Sefydliad Brenhinol ar lefel CA3 a Chynradd, wedi’u tiwtora ar lefel TGAU ac A, ac yn mentora ar gyfer yr UKMT. Yn siarad Cymraeg, ond bob amser yn awyddus i wella! |
Stephen Earles E-bost | Pennaeth Dysgu RhGMC Cydlynydd Ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cymhwysodd fel athro Mathemateg ym 1985. Dysgu mewn ysgolion ledled Gorllewin Cymru, Pennaeth Mathemateg. Yn gyfrifol am gyflwyno Mathemateg Bellach yn yr ysgol a chysylltiadau â Phrifysgol Rhydychen i ddatblygu rhaglen ar gyfer cyflawnwyr uchel. |
Cysylltwch â swyddfa benodol
Swyddfa Abertawe Prifysgol Abertawe | Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru Ystafell 103 Y Ffowndri Cyfrifiadurol Prifysgol Abertawe Campws y Bae Abertawe, SA1 8EN 01792 606845 rhgmc-mspw@swansea.ac.uk |
Claire Musselwhite | Swyddog Prosiect RhGMC 01792 606845 c.e.musselwhite@swansea.ac.uk |
Sofya Lyakhova | Cydlynydd Ardal Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe Arweinydd Rhaglen RhGMC 01792 602793 s.lyakhova@swansea.ac.uk |
Swyddfa Caerdydd Prifysgol Caerdydd | Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru Ystafell 1.09 Abacws Prifysgol Caerdydd Ffordd Senghennydd Caerdydd CF24 4AG 02922 514591 |
Bethanie David | Cymorth Gweinyddol Rhanbarthol 02922 514591 / 01792 606845 b.h.denyer@swansea.ac.uk |
Cydlynydd Ardal De Ddwyrain f.h.hunt@swansea.ac.uk | |
Francis Hunt | Cydlynydd Ardal Canolbarth y De f.h.hunt@swansea.ac.uk |
Swyddfa Bangor Prifysgol Bangor | Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru Ystafell 114 Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor Stryd y Deon Bangor LL57 1UT 01248 382279 |
Dominic Oakes | Cydlynydd Ardal D.R.G.Oakes@Swansea.ac.uk |
Elen Wyn Clode | Cymorth Gweinyddol Rhanbarthol e.w.clode@bangor.ac.uk |
Swyddfa Aberystwyth Prifysgol Aberystwyth | Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru Ystafell 4.03 Adeilad y Gwyddorau Ffisegol Prifysgol Aberystwyth Aberystwyth Ceredigion SY23 3BZ 01970 622 763 or 01970 622458 |
Stephen Earles | Cydlynydd Ardal Ceredigion a Powys s.n.f.earles@swansea.ac.uk |
Cydlynydd Ardal Ceredigion a Powys | |
Hayley Owen | Cymorth Gweinyddol Rhanbarthol a phob ymholiad Hyfforddiant hao9@aber.ac.uk |