BethCwrs Dysgu Proffesiynol ar gyfer Mathemateg Bellach Uned 5 (A2 Ystadegaeth Bellach)
PwyAthrawon CA5
PrydMawrth i Gorffennaf 2023
SutAr-lein
I gofrestrub.h.denyer@swansea.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Caiff y cwrs ei rhannu’n bum sesiwn, bob un yn para am tua thair wythnos.

Mae pob sesiwn rhwng 6.30pm ac 8pm oni nodir yn wahanol 

MB Uned 5 Cyflwyniad Galw heibio Olaf 
Sesiwn 1 Llun Mawrth 6ed Iau Mawrth 16eg   (7-8pm) Mercher Mawrth 22ain 
Sesiwn 2 Mercher Mawrth 29ain Mercher Ebrill 19ain Iau Ebrill 27ain 
Sesiwn 3 Mawrth Mai 2il Mercher Mai 10fed Mercher Mai 17eg 
Sesiwn 4 Llun Mai 22ain Llun Mehefin 5ed Iau Mehefin 8fed 
Sesiwn 5 Llun Mehefin 12fed Iau Mehefin 22ain Mercher Mehefin 28ain 

Sesiwn 1 : Dosraniadau ystadegol

Mae’r sesiwn yn ystyried cyfuniadau llinol o hapnewidynnau annibynnol sydd wedi’u dosrannu’n normal, cymedr hapsampl o ddosraniad normal gyda chymedr ac amrywiant hysbys ac rydym hefyd yn edrych ar Theorem Y Derfan Ganolog.

Session 2 :  Amcangyfrifynnau

Mae’r sesiwn hon yn canolbwyntio ar amcangyfrifynnau ac yn benodol amcangyfrifynnau di-duedd a sut i ddewis rhyngddynt. Rydym yn edrych ar amcangyfrifynnau di-duedd o debygolrwydd, cymedr poblogaeth ac o amrywiant poblogaeth ynghyd â’u cyfeiliornadau safonol.

Session 3 :  Profi rhagdybiaethau (1)

Mae’r sesiwn hon yn edrych ar brofion rhagdybiaeth ar gyfer:

(a) cymedr penodedig o unrhyw ddosraniad yr amcangyfrifir ei amrywiant o sampl mawr,

(b) y gwahaniaeth rhwng dau gymedr ar gyfer dau ddosraniad normal annibynnol gydag amrywiannau hysbys,  

(c) cymedr penodedig o ddosraniad normal gydag amrywiant anhysbys yn dehongli canlyniadau ar gyfer y profion hyn yn eu cyd-destun.

Session 4 :  Profi rhagdybiaethau (2)

Mae’r sesiwn hon yn canolbwyntio ar brofion amharamedrig, h.y. profion amgen ar gyfer pryd na ellir rhagdybio model dosraniadol.

Rydym yn edrych ar y defnydd o brofion Mann-Whitney a phrofion arwyddion graddedig Wilcoxon, gan ddehongli’r canlyniadau yn eu cyd-destun

Session 5 :  Amcangyfrif – Terfannau/Cyfyngau Hyder

Mae’r sesiwn hon yn ystyried dealltwriaeth a defnydd terfannau hyder/cyfyngau ar gyfer:

(a) cymedr dosraniad normal gydag amrywiant hysbys ac anhysbys,  

(b) y gwahaniaeth rhwng cymedrau dau ddosraniad normal gydag amrywiannau hysbys. Hefyd rydym yn ystyried amcangyfrifon o derfannau hyder, wrth ystyried samplau mawr, ar gyfer tebygolrwydd neu gyfran a dehongli’r holl ganlyniadau mewn cyd-destun ymarferol.

Bydd pob sesiwn o waith yn para 2-3 wythnos.  

Ar ddechrau’r sesiwn byddwch yn derbyn pecyn adnoddau o ddeunyddiau astudio yn cynnwys
·       PowerPoints esboniadol gydag ymarferion ac atebion
·       lle bo’n briodol, adnoddau geogebra neu excel
·       PowerPoint ychwanegol yn cynnwys detholiad o gwestiynau arddull arholiad (heb atebion).

Yn ystod y sesiwn bydd gennych fynediad e-bost at y tiwtor a gobeithiwn drefnu cyfarfod zoom “galw fewn” gwirfoddol lle gallwch drafod y cynnwys gyda chydweithwyr eraill a/neu’r tiwtor.  

Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfarfod zoom a’r gobaith yw y bydd pawb yn gallu mynychu. Yn ystod y sesiwn hon, bydd atebion i’r PowerPoint o gwestiynau arddull arholiad yn cael eu hystyried a bydd cyfleoedd i drafod unrhyw anawsterau sydd wedi codi.