BethDysgu Proffesiynol MBU3 (Mecaneg Bellach)
PwyAthrawon CA5
PrydHydref i Ragfyr 2022
HowAr-lein
To bookb.h.denyer@swansea.ac.uk

Mwy o wybodaeth

 Caiff y cwrs ei rannu i fewn i dri sesiwn hunan-astudio, bydd pob sesiwn yn parhau tua 3 wythnos.

Sesiwn 1 :  Gwaith, Pŵer ac Egni
Mae’r sesiwn yma’n cynnwys cyflwyniad byr i Fodelu Mathemategol cyn ystyried y syniadau pwysig o waith, egni a phŵer pwy yna caiff eu cymhwyso i amrhywiaeth o sefyllfaoedd mecanyddol yn cynnwys y rhai’n cynnwys llinynnau elastig.
Sesiwn 2 :  Ergyd a Momentwm; Mecaneg Fector
Datblyga’r sesiwn y syniadau o ergyd a momentwm o Ddeddfau Newton a’u cymwhwyso i broblemau yn cynnwys gwrthdrawiad gwrthrychau’n symud ar hyd llinell syth. Yna caiff dulliau fector eu defnyddio i ehangu yr egwyddorion a welwyd mor belled i fudiant mewn mwy nag un dimensiwn.
Sesiwn 3 :  Mudiant Mewn Cylch
Defnyddia y sesiwn yma y dulliau o sesiwn 2 i ddiddwytho y cyflymder a chyflymiad o ronyn yn symud mewn cylch. Gyda deddfau Newton, mae’r canlyniadau yma’n galluogi mudiant mewn cylch llorweddol gyda cyflymder onglaidd cyson i ymchwilio i fewn i. Caiff mudiant mewn cylch fertigol ei ystyried hefyd a gwna hyn defnydd eang o’r ddau o ddeddfau Newton a chadwraeth egni.

Sesiwn 1: Dechrau – Dydd Llun 3 Hydref 2022. Zoom Gloi – Dydd Mercher 26 Hydref 2022.
Sesiwn 2: Dechrau – Dydd Iau 27 Hydref 2022. Zoom Gloi – Dydd 16 Mercher 2022.
Sesiwn 3: Dechrau – Dydd Iau 17 Tachwedd 2022. Zoom Gloi  -Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2022.

Ar ddechrau’r sesiwn byddwch yn derbyn pecyn adnoddau o ddeunyddiau astudio yn cynnwys
·       PowerPoints esboniadol gydag ymarferion ac atebion
·       lle bo’n briodol, adnoddau geogebra neu excel
·       PowerPoint ychwanegol yn cynnwys detholiad o gwestiynau arddull arholiad (heb atebion).

Bydd cyfranogwyr yn gweithio eu ffordd trwy y pecyn astudio yn ystod y cyfnod tri wythnos. Yn ystod y sesiwn bydd gennych mynedfa trwy ebost i’r tiwtor a bydd yna cyfarfod zoom “galw-heibio” gwirfoddol tua hanner ffordd trwy y cyfnod, lle gallwch trafod y cynnwys gyda cydweithwyr arall a’r tiwtor.
Ar ddiwedd y sesiwn bydd yna cyfarfod zoom pwy gobeithwyd bydd pawb yn gallu mynychu. Bydd y sesiwn yn ystyried y datrysiadau o’r cwestiynau math-arholiad a rhoi’r cyfle i awgrymu a thrafod dulliau addysgu. Gobeithiwyd bydd yr holl cyfranogwyr wedi gweithio trwy nifer da o gwestiynau math-arholiad o flaen llaw i’r sesiwn yma.