BethDysgu Proffesiynol MBU2 (Bellach Ystadegaeth)
PwyAthrawon CA5
PrydHydref i Rhagfyr 2022
SutAr-lein
I gofrestrub.h.denyer@swansea.ac.uk

Mwy o wybodaeth

 MB Uned 2 Cyflwyniad Galw fewn Olaf
Sesiwn 1 Mercher Hyd 5 Iau Hyd 13 Iau Hyd 20
Sesiwn 2 Mawrth Hyd 25 Llun Tach 7 (7-8pm) Merch Tach 9
Sesiwn 3 Mercher Tach 16 Iau Tach 24 (7- 8.30) Mercher Tach 30
Sesiwn 4 Merch Rhag 7 Iau Rhag 15 (7- 8.30) Mercher Ion 23 2023

(i)
Dosraniadau​ Tebygolrwydd Arwahanol:
Darganfyddwch y cymedr ac amrywiant o ddosraniadau tebygolrwydd arwahanol syml ac algebra disgwyliad gyda dosraniadau tebygolrwydd arwahanol (a hapnewidynnau di-dor).
(ii)
Dosraniadau Tebygolrwydd Di-Dor:
Deall a defnyddio ffwythiannau dwysedd tebygolrwydd a dosraniad cronnus a’u perthnasoedd. Darganfod a defnyddio y canolrif, chwartelau, a chanraddau, cymedr, amrywiant a gwyriad safonol. Deall a defnyddio y gwerth disgwyliedig o ffwythiant o hapnewidyn di-dor.
Dosraniadau Poisson ac esbonyddol:
Darganfod a defnyddio y cymedr ac amrywiant o ddosraniad Poisson a dosraniad esbonyddol. Deall a defnyddio Poisson fel brasamcan i’r dosraniad binomial. Cymwhyso y canlyniad o fod gan y swm o hapnewidynnau Poisson annibynnol dosraniad Poisson. Defnydd o’r dosraniad esbonyddol fel model ar gyfer cyfyngau rhwng digwyddiadau.
(iii)
Deall a defnyddio cydberthyniad ac atchweliad llinol
Archwilio y perthansoedd rhwng nifer o newidynnau. Cyfifwch a dehonglwch y ddau o gyfernod cydberthyniad trefn restrol Spearman a chyfernod cydberthyniad moment lluoswn Pearson.     
Cyfrifo a dehongli y cyfernodau ar gyfer llinell atchwel sgwariau lleiaf o fewn cyd-destun; rhyngosod ac allosod.
Deall a defnyddio y dosraniad Chi-sgwâr:
Cynnal prawf am lwyddiant y ffit, defnyddio χ2 fel ystadegyn brasamcan. Defnyddio prawf χ2  i brofi am gydgysylltiad mewn tabl newidynnau a dehongli canlyniadau.

Bydd pob sesiwn o waith yn para 2-3 wythnos.  

Ar ddechrau’r sesiwn byddwch yn derbyn pecyn adnoddau o ddeunyddiau astudio yn cynnwys
·       PowerPoints esboniadol gydag ymarferion ac atebion
·       lle bo’n briodol, adnoddau geogebra neu excel
·       PowerPoint ychwanegol yn cynnwys detholiad o gwestiynau arddull arholiad (heb atebion).

Yn ystod y sesiwn bydd gennych fynediad e-bost at y tiwtor a gobeithiwn drefnu cyfarfod zoom “galw fewn” gwirfoddol lle gallwch drafod y cynnwys gyda chydweithwyr eraill a/neu’r tiwtor.  

Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfarfod zoom a’r gobaith yw y bydd pawb yn gallu mynychu. Yn ystod y sesiwn hon, bydd atebion i’r PowerPoint o gwestiynau arddull arholiad yn cael eu hystyried a bydd cyfleoedd i drafod unrhyw anawsterau sydd wedi codi.