Beth | Mathemateg Bellach 2 – Cwrs Dysgu Proffesiynol (Ystadegaeth Bellach) |
Pwy | Athrawon CA5 |
Pryd | Medi 2024 i Ebrill 2025 |
Sut | Hybrid- Ar-lein yn bennaf, gyda sesiynau byw yn cael eu cynnal i ymdrin â’r pynciau mwy cymhleth yn Ne a Gogledd Cymru |
I archebu | rhgmc-mspw@swansea.ac.uk |
More information
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i MBU2 ac mae wedi’i anelu at athrawon sy’n cyflwyno Mathemateg Safon Uwch ar hyn o bryd ac a hoffai gyflwyno Mathemateg Bellach, neu athrawon sy’n addysgu Mathemateg Bellach ar hyn o bryd ac a hoffai gael sesiwn gloywi.
Strwythur y Cwrs: 4 Sesiwn. Bydd y cwrs hwn yn cael ei wasgaru dros y flwyddyn academaidd gyfan.
Sesiwn 1 Hapnewidynnau arwahanol Medi-Hyd 2024 | Dosraniadau tebygolrwydd arwahanol: Darganfod cymedr ac amrywiant dosraniadau tebygolrwydd arwahanol syml ac algebra disgwyliad gyda dosraniadau tebygolrwydd arwahanol (a hapnewidynnau di-dor). |
Sesiwn 2 Hapnewidynnau Di-dor Tach-Rhag 2024 | Dosraniadau tebygolrwydd di-dor: gan gynnwys dwysedd tebygolrwydd a ffwythiannau dosraniad cronnus a defnyddio canolrif, chwartelau a chanraddau, cymedr, amrywiant a gwyriad safonol a gwerth disgwyliedig. Y dosraniad Poisson. Poisson fel brasamcan i’r dosraniad binomial. Y dosraniad esbonyddol fel model ar gyfer cyfyngau rhwng digwyddiadau. |
Sesiwn 3 Cydberthynaiad ac atchweliad Ion – Chwe 2025 | Cydberthyniad ac atchweliad llinol: Cyfernod cydberthyniad trefn restrol Spearman. Cyfernod cydberthyniad moment-lluoswm Pearson. Llinell atchwel sgwariau lleiaf. |
Sesiwn 4 Y prawf Chi-sgwâr Maw-Ebr 2025 | Y dosraniad Chi-sgwâr: Cynnal prawf llwyddiant y ffit, gan ddefnyddio χ2 fel ystadegyn bras. Defnydd o’r prawf χ2 i brofi ar gyfer cyswllt mewn tabl newidynnau a dehongli’r canlyniadau. |
Bydd pob modiwl yn cynnwys dwy sesiwn Zoom ar-lein, yn ystod yr wythnos, yn gynnar gyda’r nos, wedi’u gwahanu gan 7-14 diwrnod. Yn y sesiynau hyn, bydd y tiwtor yn ystyried prif gysyniadau’r testun. Bydd recordiadau fideo o’r sesiynau hyn ar gael fel y gall cyfranogwyr nad ydynt yn gallu bod yn bresennol weld y sesiwn a gollwyd.
Bydd sesiynau 2 a 3 yn cynnwys y posibilrwydd o fynychu sesiwn wyneb yn wyneb gyda thiwtor. Cynhelir y sesiynau hyn yn ystod yr wythnos ac yn Ne Cymru (Abertawe) a Gogledd Cymru (Wrecsam neu Fangor). Bydd y sesiynau hyn yn digwydd cyn y ddwy sesiwn Zoom. Byddant nid yn unig yn ymdrin â deunyddiau’r ddwy sesiwn ar-lein, ond byddant hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd ag aelod o’r tîm tiwtor a chyfnewid syniadau a phrofiadau gyda rhai o’ch cyd-gyfranogwyr.
Bydd pecyn adnoddau llawn o ddeunyddiau dysgu, gan gynnwys y deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y sesiynau Zoom ac wyneb yn wyneb, ar gael a’r gobaith yw y byddwch yn gweithio drwy’r adnoddau ac yn rhoi cynnig ar rai o’r ymarferion a ddarperir. Yn ystod y cyfnod hwn o hunan-astudio bydd gennych fynediad e-bost at eich tiwtor.
Disgwylir i gyfranogwyr fynychu cymaint o sesiynau ar-lein â phosibl.session
Dyddiadau Cyrsiau:
Cynhelir sesiwn wyneb yn wyneb neu ar-lein ym mhob un o’r wythnosau a nodir. Bydd dyddiadau’n cael eu pennu cyn gynted â phosibl.
Wyneb yn wyneb | Ar-lein | |
Sesiwn 1 | Tymor yr Hydref Wythnos 4 Tymor yr Hydref Wythnos 6 | |
Sesiwn 2 | Tymor yr Hydref Wythnos 8 | Tymor yr Hydref Wythnos 9 Tymor yr Hydref Wythnos 10 |
Sesiwn 3 | Tymor y Gwanwyn Wythnos 2 | Tymor y Gwanwyn Wythnos 3 Tymor y Gwanwyn Wythnos 6 |
Sesiwn 4 | Tymor y Gwanwyn Wythnos 9 Tymor y Gwanwyn Wythnos 10 |
Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog
Bydd y cwrs hwn yn cael ei ardystio.
Mae gan bob sesiwn dasg asesu fer a bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i’w chwblhau a’i hanfon at eu tiwtor. Bydd pob tasg yn cynnwys dau neu dri chwestiwn arddull arholiad i gyfranogwyr eu hateb. Hefyd, gofynnir i gyfranogwyr feddwl am y wybodaeth y bydd ei hangen ar fyfyrwyr i fynd i’r afael â chwestiynau o’r fath a dulliau addysgu posibl y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Y gobaith yw y bydd angen llai na 90 munud i gwblhau pob tasg.
Bydd ardystiad yn seiliedig ar gwblhau’r tasgau hyn yn foddhaol a thystiolaeth o bresenoldeb yn y sesiwn neu waith annibynnol trwy’r deunydd adnoddau.
Y dyddiad cau ar gyfer ardystio fydd Awst 2025.