Beth | Mathemateg Bellach 1 – Cwrs Dysgu Proffesiynol (Pur Bellach) |
Pwy | Athrawon CA5 |
Pryd | Ar Alw |
Sut | Ar Alw |
I archebu | rhgmc-mspw@swansea.ac.uk |
Mwy o wybodeaeth
Bydd y cwrs Ar Alw hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i MBU1 ac mae wedi’i anelu at athrawon sy’n cyflwyno Mathemateg Safon Uwch ar hyn o bryd ac a hoffai gyflwyno Mathemateg Bellach, neu athrawon sy’n addysgu Mathemateg Bellach ar hyn o bryd ac a hoffai gael sesiwn gloywi.
Bydd y pynciau a drafodir yn y cwrs hwn yn cynnwys:
Rhifau Cymhlyg | Datblygu rhifau cymhlyg, rhifyddeg ac algebra rhifau cymhlyg. Y diagram Argand. Cysylltiad rhwng trawsffurfiadau’r gofod 2D a rhifyddeg rhifau cymhlyg. Modwlws ac arg a’u priodweddau. Prawf rhifau cymhlyg o’r fformiwlâu ongl gyfansawdd. Loci yn y diagram Argand. Ffwythiannau newidyn cymhlyg. |
Polynomialau a Matricsau | Gwreiddiau Polynomialau Gwerthfawrogiad anffurfiol o theorem sylfaenol algebra Mae gwreiddiau cymhlyg polynomial real yn ymddangos mewn parau cyfieuol. Priodweddau gwreiddiau polynomialau. Cyflwyniad i rifyddeg ac algebra matricsau (yn enwedig 2×2) a’r defnydd o fatricsau 2×2 i ddisgrifio trawsffurfiadau. |
Matricsau a Thrawsffurfiadau | Ffurfioli gwaith cynharach ar fatricsau 2×2 a’u defnydd gyda thrawsffurfiadau llinol o ofod dau ddimensiwn. Defnyddio matricsau 3×3 i ddisgrifio trawsffurfiadau aflinol o ofod dau ddimensiwn. Defnyddio matricsau 3×3 i ddisgrifio trawsffurfiadau llinol gofod tri dimensiwn. |
Factorau | Hafaliad fector llinell Y lluoswm scalar Hafaliad fector plân Defnyddio fectorau i gyfrifo pellteroedd ac onglau mewn gofod tri dimensiwn. |
Prawf a Chyfresi | Cyflwyno prawf drwy anwythiad Defnyddio prawf drwy anwythiad mewn ystod eang o enghreifftiau Swm n term cyntaf cyfres gan ddefnyddio anwythiad, priodweddau nodiant Σ a’r dull gwahaniaeth. |
Mae Ar Alw yn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio pryd a ble y dymunwch; amser cinio, gwersi rhydd neu gartref ac ar eich cyflymder eich hun. Nid oes dyddiad dechrau na dyddiad gorffen – mae hynny yn eich dwylo chi a gallwch astudio yn y modd hwn dros fwy nag un flwyddyn academaidd.
Byddwch yn cael eich cofrestru ar sianel Microsoft Teams sy’n cael ei monitro lle bydd cyfarwyddiadau llenwi yn eich arwain trwy’r cwrs ar eich cyflymder eich hun.
Mae cyfle yn sianel Teams i gydweithio ag eraill sy’n gwneud y cwrs a fforwm lle gallwch drafod materion ac addysgeg y pynciau.
Er mwyn annog cyfranogiad gweithredol yn y cwrs, mae rhaglen ardystio yn cael ei chyflwyno: bydd tystysgrifau’n cael eu rhoi i gyfranogwyr sy’n cwblhau’r cwrs ac yn dangos eu dealltwriaeth o’r cysyniadau a’u haddysgu trwy raglen o aseiniadau byr ar ddiwedd pob sesiwn. Eglurir hyn yn y sianel Teams.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r cwrs a’i fod yn ategu ac yn cyfrannu at eich rhaglen datblygiad personol.
I ymuno â’n cwrs Ar Alw, e-bostiwch rhgmc-mspw@swansea.ac.uk