Beth | Cwrs Dysgu Proffesiynol ar gyfer Mathemateg Bellach Uned 5 (A2 Ystadegaeth Bellach) |
Pwy | Athrawon CA5 |
Pryd | Mawrth i Gorffennaf 2023 |
Sut | Ar-lein |
I gofrestru | b.h.denyer@swansea.ac.uk |
Mwy o wybodaeth
Caiff y cwrs ei rhannu’n bum sesiwn, bob un yn para am tua thair wythnos.
Mae pob sesiwn rhwng 6.30pm ac 8pm oni nodir yn wahanol
MB Uned 5 | Cyflwyniad | Galw heibio | Olaf |
Sesiwn 1 | Llun Mawrth 6ed | Iau Mawrth 16eg (7-8pm) | Mercher Mawrth 22ain |
Sesiwn 2 | Mercher Mawrth 29ain | Mercher Ebrill 19ain | Iau Ebrill 27ain |
Sesiwn 3 | Mawrth Mai 2il | Mercher Mai 10fed | Mercher Mai 17eg |
Sesiwn 4 | Llun Mai 22ain | Llun Mehefin 5ed | Iau Mehefin 8fed |
Sesiwn 5 | Llun Mehefin 12fed | Iau Mehefin 22ain | Mercher Mehefin 28ain |
Sesiwn 1 : Dosraniadau ystadegol
Mae’r sesiwn yn ystyried cyfuniadau llinol o hapnewidynnau annibynnol sydd wedi’u dosrannu’n normal, cymedr hapsampl o ddosraniad normal gyda chymedr ac amrywiant hysbys ac rydym hefyd yn edrych ar Theorem Y Derfan Ganolog.
Session 2 : Amcangyfrifynnau
Mae’r sesiwn hon yn canolbwyntio ar amcangyfrifynnau ac yn benodol amcangyfrifynnau di-duedd a sut i ddewis rhyngddynt. Rydym yn edrych ar amcangyfrifynnau di-duedd o debygolrwydd, cymedr poblogaeth ac o amrywiant poblogaeth ynghyd â’u cyfeiliornadau safonol.
Session 3 : Profi rhagdybiaethau (1)
Mae’r sesiwn hon yn edrych ar brofion rhagdybiaeth ar gyfer:
(a) cymedr penodedig o unrhyw ddosraniad yr amcangyfrifir ei amrywiant o sampl mawr,
(b) y gwahaniaeth rhwng dau gymedr ar gyfer dau ddosraniad normal annibynnol gydag amrywiannau hysbys,
(c) cymedr penodedig o ddosraniad normal gydag amrywiant anhysbys yn dehongli canlyniadau ar gyfer y profion hyn yn eu cyd-destun.
Session 4 : Profi rhagdybiaethau (2)
Mae’r sesiwn hon yn canolbwyntio ar brofion amharamedrig, h.y. profion amgen ar gyfer pryd na ellir rhagdybio model dosraniadol.
Rydym yn edrych ar y defnydd o brofion Mann-Whitney a phrofion arwyddion graddedig Wilcoxon, gan ddehongli’r canlyniadau yn eu cyd-destun
Session 5 : Amcangyfrif – Terfannau/Cyfyngau Hyder
Mae’r sesiwn hon yn ystyried dealltwriaeth a defnydd terfannau hyder/cyfyngau ar gyfer:
(a) cymedr dosraniad normal gydag amrywiant hysbys ac anhysbys,
(b) y gwahaniaeth rhwng cymedrau dau ddosraniad normal gydag amrywiannau hysbys. Hefyd rydym yn ystyried amcangyfrifon o derfannau hyder, wrth ystyried samplau mawr, ar gyfer tebygolrwydd neu gyfran a dehongli’r holl ganlyniadau mewn cyd-destun ymarferol.
Bydd pob sesiwn o waith yn para 2-3 wythnos.
Ar ddechrau’r sesiwn byddwch yn derbyn pecyn adnoddau o ddeunyddiau astudio yn cynnwys
· PowerPoints esboniadol gydag ymarferion ac atebion
· lle bo’n briodol, adnoddau geogebra neu excel
· PowerPoint ychwanegol yn cynnwys detholiad o gwestiynau arddull arholiad (heb atebion).
Yn ystod y sesiwn bydd gennych fynediad e-bost at y tiwtor a gobeithiwn drefnu cyfarfod zoom “galw fewn” gwirfoddol lle gallwch drafod y cynnwys gyda chydweithwyr eraill a/neu’r tiwtor.
Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfarfod zoom a’r gobaith yw y bydd pawb yn gallu mynychu. Yn ystod y sesiwn hon, bydd atebion i’r PowerPoint o gwestiynau arddull arholiad yn cael eu hystyried a bydd cyfleoedd i drafod unrhyw anawsterau sydd wedi codi.