Mynd i'r cynnwys
BethGeogebra fel arf dysgu Mathemateg Safon Uwch (MU1)
PwyAthrawon CA5
PrydGwanwyn 2023
HowAr-lein
To bookrhgmc-mspw@swansea.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno ffyrdd y gallai Geogebra fod yn ddefnyddiol mewn ystafell ddosbarth Mathemateg Safon Uwch.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer athrawon lefel A sy’n hollol newydd i’r meddalwedd. Nod y cwrs yw rhoi’r sgiliau angenrheidiol i gyfranogwyr gynhyrchu rhaglennig syml ond defnyddiol a fydd yn darlunio cysyniadau o fodiwl Mathemateg MU1 Safon Uwch CBAC.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy ddwy sesiwn Zoom gyda’r nos, un yn hanner cyntaf Tymor yr Hydref ac un yn ail hanner Tymor yr Hydref. Bydd pob sesiwn hyd at 2 awr o hyd.

Bydd y rhan fwyaf o’r sesiynau yn ymarferol gyda’r tiwtoriaid yn esbonio sut y gellir paratoi rhaglenni Geogebra ac yn mynd â chyfranogwyr drwy’r adeiladu gam wrth gam. Felly bydd angen i’r cyfranogwyr gael Geogebra wedi’i lwytho ar yr un cyfrifiadur neu liniadur y maent yn ei ddefnyddio i dderbyn cyfarfod Zoom. Byddem yn argymell eich bod yn lawrlwytho fersiwn Classic 5 neu Classic 6 Geogebra ar gyfer y sesiynau hyn.

Yn ystod y sesiynau, gofynnir i gyfranogwyr rannu eu sgrin Geogebra yn ystod y broses adeiladu fel y gellir datrys unrhyw anawsterau yn gyflym. Mae hyn yn golygu bod angen cyfyngu nifer y cyfranogwyr ar gyfer y cwrs hwn i uchafswm o 6. Os bydd y galw am y cwrs hwn yn ddigonol, efallai y bydd modd cyflwyno’r cwrs ddwywaith.

Sesiwn 1 : Defnyddio Geogebra fel Adnodd Graffio ac Ysgogi

Sesiwn 2 :Defnyddio Geogebra i archwilio Geometreg a Thrawsffurfiadau

Sesiwn 1: Hanner Tymor 1af yr Hydref

Sesiwn 2: 2il Hanner Tymor yr Hydref

Bydd y sesiwn yn dechrau yn ystod yr wythnos am 6.30pm ac yn para hyd at 2 awr.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei ardystio. Er mwyn derbyn Tystysgrif Cyflawniad, bydd disgwyl i gyfranogwyr fynychu o leiaf un o’r sesiynau a chwblhau, i lefel foddhaol, dasg wedi’i hasesu sy’n cynnwys dylunio rhaglennig Geogebra syml ac ymwybyddiaeth o sut y gellir ei defnyddio o fewn y rhaglen addysgu.