Beth | Dysgu Proffesiynol MBU6 (Mecaneg Bellach) |
Pwy | Athrawon CA5 |
Pryd | Hydref 2022 |
How | Ar-lein |
To book | b.h.denyer@swansea.ac.uk |
Mwy o wybodaeth
Bydd y cwrs yn cael ei redeg mewn pum sesiwn: Sesiwn 1: Ergyd a Momentwm Sesiynau 2 a 3 : Momentau, Creiddiau màs a Stateg gwrthrych anhyblyg. Sesiynau 4 a 5 : Hafaliadau Differol mewn Mecaneg, Cyflwyno Mudiant Harmonig Syml, Cinemateg o MHS, Osgiliadau anghyflawn, MHS wedi’i wanychu, Osgiliadau Gorfodol Bydd pob sesiwn o waith yn para 2-3 wythnos. Ar ddechrau’r sesiwn byddwch yn derbyn pecyn adnoddau o ddeunyddiau astudio yn cynnwys · PowerPoints esboniadol gydag ymarferion ac atebion · lle bo’n briodol, adnoddau geogebra neu excel · PowerPoint ychwanegol yn cynnwys detholiad o gwestiynau arddull arholiad (heb atebion). Yn ystod y sesiwn bydd gennych fynediad e-bost at y tiwtor a gobeithiwn drefnu cyfarfod zoom “galw fewn” gwirfoddol lle gallwch drafod y cynnwys gyda chydweithwyr eraill a/neu’r tiwtor. Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfarfod zoom a’r gobaith yw y bydd pawb yn gallu mynychu. Yn ystod y sesiwn hon, bydd atebion i’r PowerPoint o gwestiynau arddull arholiad yn cael eu hystyried a bydd cyfleoedd i drafod unrhyw anawsterau sydd wedi codi. Er mwyn cwblhau’r cwrs erbyn y Nadolig, cafodd y set cyntaf o adnoddau eu anfon allan cyn dechrau tymor y Hydref. Os hoffech mynychu, cysylltwch â Bethanie mor gynted ag sy’n bosib i ddechrau y cwrs yma. |