Cwricwlwm i Gymru
o: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/cyflwyniad/
o: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/mathemateg-a-rhifedd/datganiadau-o-r-hyn-sy-n-bwysig/
DAB 1 – Toesen Bersonnol
Rydym wedi llunio adnodd gyda chyfres o weithgareddau bach lle bydd eich myfyrwyr yn creu toesen eu hunain, yn seiliedig ar sawl ffactor cymdeithasol ac amgylcheddol. Gellir datblygu hyn ymhellach trwy ddilyn dolen arall o’r cylch trin data i fireinio a gwella eu gwaith.
Yn gynwysedig mae: [i gael mynediad at yr adnoddau hyn cliciwch yma]
- Cyflwyniad athro
- Canllaw athrawon
- Taflen casglu data myfyrwyr
- Graddfeydd lliw myfyrwyr
- Toesenni gwag
Cysyniadau mathemategol y gellir dod ar eu traws:
- Cylch ymholiad
- Casglu data
- Prosesu data
- Cyfrifo’r cymedr yn ei gyd-destun
- Cyflwyno data arloesol gan ddefnyddio meddalwedd deinamig
Darllen pellach
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod rhagor am Economeg Toesen edrychwch ar dudalen we Kate Raworth neu gwelwch y poster hwn gan Andre a Lavicza
Ap Geogebra
Defnyddiwch yr Ap Geogebra isod i greu eich toesenni eich hun. Neu cliciwch yma.
Os hoffech gynyddu nifer y newidynnau yn y doesen, cliciwch yma
DAB II – Toesen Sirol
Yn ail gylch y prosiect economeg toesen, rydym wedi ymestyn y broses! Yn yr iteriad cyntaf roedd myfyrwyr yn archwilio eu toesen personol a sawl newidyn. Yn yr iteriad hwn rydym yn ehangu’r prosiect i gymharu siroedd yng Nghymru.
Yn gynwysedig mae: [i gael mynediad at yr adnoddau hyn cliciwch yma]
- Cyflwyniad athro
- Canllaw athrawon
- Taflen casglu data myfyrwyr a thaflen toesen
- Taenlen data’r Sir
- Gweithgaredd Desmos
- Ap Geogebra
Cysyniadau mathemategol y gellir dod ar eu traws:
- Cylch ymholiad
- Plotiau Blwch (Isafswm, Chwartel Isaf, Canolrif, Chwartel Uchaf, Uchafswm)
- Dewis data
- Cyflwyno data gan ddefnyddio meddalwedd deinamig
Disgwyliad Oes Iach
Cyfradd Cyflogaeth
Mynediad i’r Rhyngrwyd yn y Cartref
Enillion Cyfartalog
Cinio Ysgol Am Ddim
Cerdded i Fan Gwyrdd Lleol
Ansawdd Aer
Ôl Troed Ecolegol
Prosiectau ynni gwyrdd
Allyriadau CO2
Perygl Llifogydd
Gyrfaoedd Amgylcheddol
Yn gynwysedig mae: [i gael mynediad at yr adnoddau hyn cliciwch yma]