Mae Mathemateg yn Hwyl!
Beth | Cynhadledd Fathemateg yn Abertawe |
Pam | Myfyrwyr galluog ym mlwyddyn 8 a 9 |
Pryd | 29 Mehefin 2022 9:30-14:00 |
I archebu | rhgmc-mspw@swansea.ac.uk |
Mwy o wybpdaeth
Annwyl athro
Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru’n falch o gyhoeddi cynhadledd un-dydd ym Mhrifysgol Abertawe, Parc Singleton ar gyfer myfyrwyr Mathemateg galluog o ysgolion Cymru. Fe’ch gwahoddir i ddod â myfyrwyr Blwyddyn 8/9. Y pwyslais bydd fod Mathemateg yn gallu bod yn hwyl ac yn heriol.
Bydd 2 weithdy a sgwrs glo yn ogystal â chystadleuaeth ‘Cwis Mathemateg’ yn cael ei gynnal yn ystod y dydd, gyda gwobr taleb.
Gobeithio y bydd modd i chi ddod â grŵp o tua 15 myfyriwr sydd â diddordeb mewn mathemateg. Dyluniwyd y diwrnod i apelio at eich mathemategwyr disgleiriaf ym Mlwyddyn 8/9.
Ni fydd unrhyw gost am y diwrnod, ac anfonir manylion pellach, fel bod modd i chi drefnu cludiant, caniatâd i fod yn absennol o’r ysgol, caniatâd rhieni ac i anfon ffurflen gofrestru atom, fydd yn cynnwys enwau’r staff a’r myfyrwyr sy’n bwriadu mynychu.
Eleni, dim ond 100 o lefydd sydd gennym. Dosberthir y rhain ar sail ‘y cyntaf i’r felin’, felly rydym yn argymell eich bod yn archebu’ch llefydd yn gynnar.
Lle y bo modd a fyddech gystal â sicrhau rhaniad cyfartal rhwng myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd os gwelwch yn dda.
Bydd cydnabyddiaeth yn cael ei anfon ar ôl derbyn y wybodaeth isod.
Enw’r ysgol/coleg Name of school/college | |
Cyswllt / Contact | |
Ebost / Email | |
Nifer y Staff No. Staff | |
Nifer y Myfyrwyr No. students |