Beth | Cynhyrchu Cwestiynau Ymarfer Arholiad |
Pam | Athrawon Mathemateg |
Pryd | hyd at y Pasg 2022 |
Mwy o wybodaeth
Mae sawl athro mathemateg wedi tynnu sylw at y prinder cwestiynau Safon Uwch sydd ar gael, yn enwedig mewn rhai meysydd, ac wedi gofyn a fyddai RhGMB Cymru yn cydlynu cynhyrchu cwestiynau o ansawdd uchel (yn debyg i’r tair set o bapurau ffug Safon Uwch ar gyfer pob uned Mathemateg a Mathemateg Bellach a gynhyrchwyd pan ddaeth y maes llafur newydd allan.)
Bellach mae gennym arweinwyr tîm ar gyfer pob maes. Ein nod cychwynnol yw cynhyrchu nifer o gwestiynau ar gyfer Mathemateg Safon Uwch CBAC a sicrhau eu bod ar gael i athrawon erbyn y Pasg 2022 mewn pryd i fod yn ddefnyddiol i baratoi ar gyfer arholiadau 2022. Pe bai mwy o wirfoddolwyr yn dod ymlaen, byddwn hefyd yn gwneud cwestiynau ar gyfer Mathemateg Bellach Safon Uwch CBAC.
Y syniad yw y bydd gwirfoddolwyr yn gwneud cymaint neu gyn lleied ag y gallant. Rydym yn gweld hwn fel cyfle dysgu proffesiynol a rhwydweithio cyffredinol da yn ogystal ag ychwanegiad posibl at eich Portffolio Rheoli Perfformiad.
Bydd RhGMBC yn cydlynu’r prosiect ac yn darparu cefnogaeth, gwirio, fformatio, cyfieithu a phecynnu ynghyd â chyfrannu cwestiynau os yn bosibl.
RhGMBC: Dominic Oakes (Arweinydd Adnoddau) a Francis Hunt (Arweinydd Cyfoethogi)
Maes Arweinydd Tîm
Pur/Datrys Problemau Izzi Birch
Ystadegaeth Erica Storey
Mecaneg Mike Greenslade
Os hoffech wirfoddoli ar gyfer y prosiect hwn; neu fod gennych syniadau am feysydd sydd heb gwestiynau; neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, e-bostiwch Dominic d.r.g.oakes@swansea.ac.uk
Os ydych chi’n gwirfoddoli, nodwch os oes gennych faes arbennig mewn golwg.