Yn hanesyddol, mae Mathemategwyr Cymreig, fel llawer i wyddonwyr y DU, wedi tueddu i fod yn wyn ac yn ddynion. Yn y dyfodol mae hyn yn debygol o fod yn wahanol iawn! I weld detholiad amrywiol o fathemategwyr gorau, gweler ein fideos Gyrfaoedd mewn Mathemateg.
Robert Recorde 1512?-1558
Yn enedigol o Ddinbych-y-pysgod, dyfeisydd yr arwydd hafal (=) ac awdur llyfrau mathemateg ar gyfer pobl gyffredin: athro penigamp.
William Jones 1674-1749
Yn enedigol o Lanfihangel Tre’r-beirdd,Ynys Môn: mathemategydd a gyflwynodd yr arwydd π i ddynodi’r gymhareb rhwng cylchedd cylch a’i ddiamedr. Cyfaill agos i Isaac Newton.
Richard Price 1723-1791
Yn enedigol o Langeinwyr (Cwm Garw, ger Pen-y-bont ar Ogwr): athronydd, pregethwr, radical a mathemategydd a sefydlodd hafaliad Bayes-Price yn sail ar gyfer mathemateg yswiriant.
William Morgan 1750-1833
Yn enedigol o Ben-y-bont ar Ogwr: meddyg a mathemategydd a sefydlodd waith actiwari yn broffesiwn.
Griffith Davies 1788-1855
Yn enedigol o’r Groeslon, Arfon: mathemategydd ac actiwari rhadlon, cymwynasgar ac uchel ei barch.
George Hartley Bryan 1864-1928
Ganed yng Nghaergrawnt, treuliodd ei yrfa ym Mhrifysgol Bangor: mathemategydd o fri a gyhoeddodd Stability in Aviation yn 1913, yn sail i wyddor hedfan.
Bertrand Russell 1872-1970
Ganed ym mhentref Tryleg, Sir Fynwy: athronydd, rhesymegydd, mathemategydd ac ymgyrchydd dros heddwch: ceisiodd sefydlu rhifyddeg ar dir rhesymeg gadarn.
Lancelot Thomas Hogben 1895-1975
Ganed yn Southsea, swydd Hampshire, a’i fawysiadu gan bentref Glyn Ceiriog: swolegydd arbrofol ac ystadegydd meddygol, a phoblogeiddiwr mathemateg a gwyddoniaeth.
Evan James Williams 1903-1945
Ganed ym mhentref Cwmsychbant, Ceredigion: ffisegydd a ddefnyddiodd fathemateg i ddadansoddi’r atom.
Donald Watts Davies 1924-2000
Ganed yn Nhreorci, y Rhondda: gwyddonydd cyfrifiadurol a arloesodd y dull o drosglwyddo data mewn pacedi; tad bedydd y rhyngrwyd fodern.
Mary Wynne Warner 1932-1998
Ganed yng Nghaerfyrddin: mathemategydd arloesol ‘a fanylodd ar anfanyldeb’, gan ddryllio nenfwd gwydr rhywedd.
John Frankland Rigby 1933-2014
Ganed ger Manceinion, treuliodd ei yrfa ym Mhrifysgol Caerdydd: geometregydd ac addysgwr rhyfeddol.