Beth | Cynhadledd undydd mathemateg ym Mhrifysgol Bangor |
Pwy | I fyfyrwyr mathemateg blwyddyn 10 |
Pryd | 1 Gorffennaf 2025. 9:30-14:15 |
I archebu | e.w.clode@bangor.ac.uk. |
Mwy o wybodaeth
Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru yn falch o gyhoeddi cynhadledd undydd ym Mhrifysgol Bangor, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electroneg, Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT ar gyfer myfyrwyr Mathemateg galluog o ysgolion yng Nghymru. Fe’ch gwahoddir i ddod â 15 o fyfyrwyr o Flwyddyn 10. Y pwyslais fydd y gall mathemateg fod yn hwyl ac yn heriol.
Rydym yn falch o gyhoeddi mai ein siaradwr gwadd eleni yw Colin Wright.

Bydd y diwrnod yn cynnwys gweithdai, sgyrsiau a chwis mathemateg gyda gwobrau.
Gobeithio y gallwch ddod â grŵp o tua 15 o fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn mathemateg. Bwriad y diwrnod yw apelio at eich mathemategwyr disgleiriaf ym Mlwyddyn 10.
Ni fydd unrhyw gost am y diwrnod i ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth, ac anfonir manylion pellach fel y gallwch wneud trefniadau ar ol i ni dderbyn y cofrestriad isod.
Eleni dim ond 100 o leoedd sydd gennym a fydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, felly fe’ch cynghorir i archebu’n gynnar.

Lle bo modd, sicrhewch fod rhaniad cyfartal rhwng merched a bechgyn yn cofrestru os gwelwch yn dda.

I gofrestru anfonwch y wybodaeth isod at e.w.clode@bangor.ac.uk
Enw’r Ysgol:
Enw’r Athro:
Ebost yr athro:
Nifer o fyfyrwyr:
Nifer o staff:
Anfonir cydnabyddiaeth ar ôl derbyn y wybodaeth uchod.