Diwrnod Amgylchedd y Byd


Cwricwlwm i Gymru

o: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/cyflwyniad/

o: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/mathemateg-a-rhifedd/datganiadau-o-r-hyn-sy-n-bwysig/


DAB 1 – Toesen Bersonnol

Rydym wedi llunio adnodd gyda chyfres o weithgareddau bach lle bydd eich myfyrwyr yn creu toesen eu hunain, yn seiliedig ar sawl ffactor cymdeithasol ac amgylcheddol. Gellir datblygu hyn ymhellach trwy ddilyn dolen arall o’r cylch trin data i fireinio a gwella eu gwaith.

Yn gynwysedig mae: [i gael mynediad at yr adnoddau hyn cliciwch yma]

  • Cyflwyniad athro
  • Canllaw athrawon
  • Taflen casglu data myfyrwyr
  • Graddfeydd lliw myfyrwyr
  • Toesenni gwag

Cysyniadau mathemategol y gellir dod ar eu traws:

  • Cylch ymholiad
  • Casglu data
  • Prosesu data
  • Cyfrifo’r cymedr yn ei gyd-destun
  • Cyflwyno data arloesol gan ddefnyddio meddalwedd deinamig

Darllen pellach

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod rhagor am Economeg Toesen edrychwch ar dudalen we Kate Raworth neu gwelwch y poster hwn gan Andre a Lavicza

Ap Geogebra

Defnyddiwch yr Ap Geogebra isod i greu eich toesenni eich hun. Neu cliciwch yma.

Os hoffech gynyddu nifer y newidynnau yn y doesen, cliciwch yma


DAB II – Toesen Sirol

Yn ail gylch y prosiect economeg toesen, rydym wedi ymestyn y broses! Yn yr iteriad cyntaf roedd myfyrwyr yn archwilio eu toesen personol a sawl newidyn. Yn yr iteriad hwn rydym yn ehangu’r prosiect i gymharu siroedd yng Nghymru.

Yn gynwysedig mae: [i gael mynediad at yr adnoddau hyn cliciwch yma]

  • Cyflwyniad athro
  • Canllaw athrawon
  • Taflen casglu data myfyrwyr a thaflen toesen
  • Taenlen data’r Sir
  • Gweithgaredd Desmos
  • Ap Geogebra

Cysyniadau mathemategol y gellir dod ar eu traws:

  • Cylch ymholiad
  • Plotiau Blwch (Isafswm, Chwartel Isaf, Canolrif, Chwartel Uchaf, Uchafswm)
  • Dewis data
  • Cyflwyno data gan ddefnyddio meddalwedd deinamig

Disgwyliad Oes Iach

Cyfradd Cyflogaeth

Mynediad i’r Rhyngrwyd yn y Cartref

Enillion Cyfartalog

Cinio Ysgol Am Ddim

Cerdded i Fan Gwyrdd Lleol

Ansawdd Aer

Ôl Troed Ecolegol

Prosiectau ynni gwyrdd

Allyriadau CO2

Perygl Llifogydd

Gyrfaoedd Amgylcheddol

Yn gynwysedig mae: [i gael mynediad at yr adnoddau hyn cliciwch yma]