Beth | Mae cyfres o 15 o Weithgareddau Dosbarth Desmos wedi’u creu ar gyfer cwrs Mathemateg Ychwanegol CBAC. |
Pwy | Mae’r sesiwn hon i athrawon gael gwibdaith o gwmpas Gweithgareddau Dosbarth Desmos. |
Pryd | Cysylltwch â mi i drefnu dyddiad ar-lein – neu – gallaf ddod i’ch ysgol i’w gyflwyno |
Sut | Trwy ‘Teams’ |
I archebu | Ebostio Alice |
Mwy o wybpdaeth
Ydych chi ar fin dechrau dysgu Mathemateg Ychwanegol?
Oes gennych chi ychydig o fyfyrwyr sydd angen rhywbeth ychwanegol?
Heriwch ac ymestyn eich myfyrwyr TGAU mwy galluog….
Yn y sesiwn hon byddwn yn edrych ar Weithgareddau Dosbarth Desmos a sut y gallwch eu defnyddio gyda’ch dosbarth. Byddwn hefyd yn edrych ar y deunyddiau cwrs Mathemateg Ychwanegol rydyn ni wedi’u creu ar gyfer y cwrs CBAC. Byddwch yn derbyn dolen i’r holl ddeunyddiau ac yn rhydd i’w ddefnyddio fel y dymunwch ac addasu ar gyfer eich dosbarthiadau.