BethCwrs ar Gynllunio Cysylltiadau Mathemategol
PwyAthrawon
PrydDiwedd Chwefror – Gorffennaf 2024 Dyddiadau isod
SutHybrid
I archebufmspwales@swansea.ac.uk
Mwy o Wybodaeth
Bydd hwn yn gwrs hybrid, yn cyfeirio at CiG a Safon Uwch, ar ddylunio (neu addasu) Rhaglenni Astudio gyda ffocws penodol ar gysylltiad mathemategol, gan helpu i gyfeirio at y cysylltiadau hyn yn haws, gan gynnwys rhychwantu sawl maes.
Gall y dull hwn helpu myfyrwyr (ac athrawon!) i ddatblygu eu synnwyr o sut mae gweithredoedd, prosesau a gwrthrychau mathemategol yn gysylltiedig. Mae dealltwriaeth o’r fath yn arwain at fyfyrwyr yn datblygu delwedd feddyliol ddyfnach o gysylltedd mathemategol, gan wreiddio gwybodaeth a dealltwriaeth yn fwy cadarn a chynyddu hyder wrth ddatrys problemau.
Bydd sesiynau ar-lein ar ddechrau a diwedd y cwrs. Rhwng y rhain bydd astudiaeth hyblyg, ar-lein, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu fel fideos darlithoedd dan arweiniad tiwtor ac adnoddau pecyn gwaith i adeiladu eich sgiliau a chadarnhau eich dealltwriaeth. Byddwch yn cael eich cofrestru ar sianel Microsoft Teams sy’n cael ei monitro lle bydd cyfarwyddiadau llawn yn eich arwain trwy’r cwrs ar eich cyflymder eich hun. Mae cyfle yn y sianel Teams i gydweithio ag eraill sy’n gwneud y cwrs a fforwm i drafod.
Er mwyn annog cyfranogiad gweithredol yn y cwrs, mae rhaglen ardystio wedi’i chyflwyno: bydd tystysgrifau’n cael eu rhoi i gyfranogwyr sy’n cwblhau’r cwrs ac yn dangos eu dealltwriaeth o’r cysyniadau a’u cymhwysiad. Bydd hyn yn cael ei esbonio yn y sianel Teams.

Adborth o gwrs y llynedd:
Diolch am y cwrs, mwynheais y cyfan yn fawr.
Mae’r cwrs wedi fy ngalluogi i glymu a ffurfioli nifer o agweddau ar fathemateg bellach yr oeddwn yn eu haddysgu cyn hyn fel pynciau digyswllt.
Mae’r cwrs yn datblygu’r syniad bod cysylltiadau niferus o fewn Mathemateg ac y bydd gwneud y cysylltiadau hyn yn eglur yn dyfnhau dealltwriaeth ac yn helpu gyda dysgu.
Rwy’n rhannu’r holl syniadau, cysyniadau a gwybodaeth mewn cyfarfodydd adrannol yn y dyfodol.
Roeddwn i’n hoffi anffurfioldeb y ffordd roedd y cwrs yn cael ei redeg, gan ei fod yn caniatáu i feddyliau a thrafodaeth ddigwydd.
Byddwn yn argymell y cwrs i gydweithwyr.
Rwyn llawer mwy ymwybodol o wneud cysylltiadau amlwg er mwyn angori’r dysgu newydd.
 
Sesiynau ar-lein: Dydd Mercher 28 Chwefror
Sesiwn 1 15:30-17:00
Sesiwn 1 amgen. 18:30-20:00
 
Astudiaeth ar-alw
Bydd deunyddiau a thasgau ar gael
 
Sesiynau ar-lein: Dydd Mercher 10fed Gorffennaf
Sesiwn 2 15:30-17:00
Sesiwn 2 amgen. 18:30-20:00