BethDosbarthiadau Meistr Mathemateg y Sefydliad Brenhinol
PamMyfyrwyr Blwyddyn 9 a Blwyddyn 10 sy’n alluog mewn mathemategol ac y bernir bod ganddynt botensial a diddordeb yn y dosbarthiadau
Prydnos Fercher 4:45pm-6:30pm ar 14 Mehefin, 21 Mehefin, 28 Mehefin, 5 Gorffennaf
SutBydd y Dosbarthiadau Meistr yn cael eu cynnal ar-lein dros Zoom
I archebu Mae’r cynhadleddau hyn nawr yn llawn!

Hoffwn eich gwahodd i enwebu disgyblion sy’n alluog mewn mathemateg, i fynychu Dosbarthiadau Meistr Mathemateg y Sefydliad Brenhinol sydd i’w cynnal ar-lein dros Zoom. Bydd y gyfres o 4 dosbarth ar ddydd Mercher o 4:45pm tan 6:30pm ar Fehefin 14eg, Mehefin 21ain, Mehefin 28ain, a Gorffennaf 5ed.

Bydd tua 60 o leoedd ar gael i gyd. Bydd yr holl leoedd yn cael eu dyrannu ar sail yr un gwahoddiad hwn a gwarantir DAU le i bob ysgol. Dyma ddolen i ffurflen enwebu’r ysgol i chi restru hyd at bump o ddisgyblion yr hoffech fynychu. Efallai bydd y galw am leoedd yn fwy na’r nifer sydd ar gael er y byddaf yn ceisio cynnig lle i bob disgybl sy’n cael ei enwebu. Os byddwch yn enwebu mwy na dau ddisgybl rhowch nhw yn nhrefn blaenoriaeth fel y gellir cynnig lleoedd heb gysylltu â chi.

Amgaeir hefyd ddalen o wybodaeth am y dosbarthiadau a ffurflen caniatâd rhieni; dyblygwch y rhain yn ôl yr angen a’u dosbarthu i blant sydd â diddordeb yn y band oedran cywir, h.y. Blwyddyn 9 a Blwyddyn 10. Pwysleisiwch wrth eich disgyblion, er ein bod yn anelu at sefydlu awyrgylch gwaith pleserus, y disgyblion a fydd yn cael y budd mwyaf yw’r rhai mwyaf astud a gweithgar.

Dychwelwch y ffurflen enwebu a’r ffurflenni caniatâd rhieni o’ch ysgol erbyn dydd Gwener 26 Mai 2023 fan bellaf (mae’r manylion cyswllt ar y ffurflen enwebu).

Gellir anfon ffurflenni enwebu ymlaen llaw os yw’n well gennych. Mae croeso i athrawon mathemateg fynychu unrhyw un neu bob un o’r dosbarthiadau meistr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch fmspwales@swansea.ac.uk.