Mae Mathemateg yn Hwyl! 

BethCynhadledd Fathemateg yn Abertawe
PamMyfyrwyr galluog ym mlwyddyn 8 a 9
Pryd29 Mehefin 2022
9:30-14:00
I archebufmspwales@swansea.ac.uk

Mwy o wybpdaeth

Annwyl athro

Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru’n falch o gyhoeddi cynhadledd un-dydd ym Mhrifysgol Abertawe, Parc Singleton ar gyfer myfyrwyr Mathemateg galluog o ysgolion Cymru. Fe’ch gwahoddir i ddod â myfyrwyr Blwyddyn 8/9. Y pwyslais bydd fod Mathemateg yn gallu bod yn hwyl ac yn heriol.


Bydd 2 weithdy a sgwrs glo yn ogystal â chystadleuaeth ‘Cwis Mathemateg’ yn cael ei gynnal yn ystod y dydd, gyda gwobr taleb.

Gobeithio y bydd modd i chi ddod â grŵp o tua 15 myfyriwr sydd â diddordeb mewn mathemateg. Dyluniwyd y diwrnod i apelio at eich mathemategwyr disgleiriaf ym Mlwyddyn 8/9.
Ni fydd unrhyw gost am y diwrnod, ac anfonir manylion pellach, fel bod modd i chi drefnu cludiant, caniatâd i fod yn absennol o’r ysgol, caniatâd rhieni ac i anfon ffurflen gofrestru atom, fydd yn cynnwys enwau’r staff a’r myfyrwyr sy’n bwriadu mynychu.


Eleni, dim ond 100 o lefydd sydd gennym. Dosberthir y rhain ar sail ‘y cyntaf i’r felin’, felly rydym yn argymell eich bod yn archebu’ch llefydd yn gynnar.

Lle y bo modd a fyddech gystal â sicrhau rhaniad cyfartal rhwng myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd os gwelwch yn dda.

Bydd cydnabyddiaeth yn cael ei anfon ar ôl derbyn y wybodaeth isod.

E-bost

Enw’r ysgol/coleg Name of school/college  
Cyswllt / Contact  
Ebost / Email  
Nifer y Staff No. Staff
Nifer y Myfyrwyr No. students