BethCyfres o bum sesiwn ar-lein i baratoi at y papur MAT
PamAr gyfer disgyblion sy’n anelu at sefyll y prawf MAT ym mis Hydref 2023
Pryd3 a 10 Gorffennaf, 11 a 25 Medi, a 9 Hydref
SutAr lein ar Teams
I archebuFfuflen gofrestru https://forms.gle/FHqVssTSYvi5Uasm7

Bydd RhGMBC yn rhedeg cyfres o bum sesiwn ar-lein i baratoi at MAT i ddisgyblion blwyddyn 12 (2022/2023) sy’n anelu at sefyll y prawf ym mis Hydref 2023. (MAT yw’r Prawf Derbyn Mathemateg dwy- awr-a-hanner a ddefnyddir gan Brifysgol Rhydychen, Coleg Imperial, a Phrifysgol Warwick, fel rhan o’u gweithdrefn dderbyn ar gyfer rhai cyrsiau).

Bydd y sesiynau hyn hefyd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr sy’n paratoi ar gyfer unrhyw brawf sy’n gofyn am sgiliau datrys problemau mathemategol fel yr arholiadau PAT, TMUA neu STEP, neu ar gyfer unrhyw fyfyriwr sy’n dymuno gwella ei sgiliau yn y maes hwn.  Bydd y sesiynau hyn yn ategu’r ffrydiau byw sy’n cael eu darparu gan Brifysgol Rhydychen

www.maths.ox.ac.uk/study-here/undergraduate-study/maths-admissions-test/mat-livestream

Cyflwynir pob sesiwn trwy gyfrwng Saesneg, fodd bynnag, gallwn gynnig rhywfaint o gymorth cyfrwng Cymraeg, felly rhowch wybod i ni os oes angen hyn. Gellir gofyn am recordiad hefyd.

Mae’r sesiynau yn fyw ar Teams. I gofrestru llenwch y ffurflen ar-lein gyda chaniatâd rhieni yma:  https://forms.gle/FHqVssTSYvi5Uasm7 . Am unrhyw gwestiynau ebostiwch e.w.clode@bangor.ac.uk