Beth | Cynhadledd undydd mathemateg yng Ngholeg Sir Benfro |
Pwy | I fyfyrwyr mathemateg blwyddyn 10 |
Pryd | 20 Mehefin 2023 |
I archebu | hao9@aber.ac.uk |
Mwy o wybodaeth
Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru yn falch o gyhoeddi cynhadledd undydd yn Ngholeg Sir Benfro, Hwlffordd, ar gyfer myfyrwyr Mathemateg galluog o ysgolion yng Nghymru. Fe’ch gwahoddir i ddod â 15 o fyfyrwyr o Flwyddyn 10. Y pwyslais fydd y gall mathemateg fod yn hwyl ac yn heriol.

Bydd gweithdai, sgwrs glo a chwis mathemateg gyda gwobrau.
Gobeithio y gallwch ddod â grŵp o tua 15 o fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn mathemateg. Bwriad y diwrnod yw apelio at eich mathemategwyr disgleiriaf ym Mlwyddyn 10.
Ni fydd unrhyw gost am y diwrnod i ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth, ac anfonir manylion pellach fel y gallwch wneud trefniadau ar ol i ni dderbyn y cofrestriad isod.
Eleni dim ond 100 o leoedd sydd gennym a fydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, felly fe’ch cynghorir i archebu’n gynnar.

Lle bo modd, sicrhewch fod rhaniad cyfartal rhwng myfyrwyr gwyrwaidd a benywaidd.

I gofrestru anfonwch y wybodaeth isod at Hayley Owen hao9@aber.ac.uk
Enw’r Ysgol:
Enw’r Athro:
Ebost yr athro:
Nifer o fyfyrwyr:
Nifer o staff:
Anfonir cydnabyddiaeth ar ôl derbyn y wybodaeth uchod.