Mathemateg yw eich Dyfodol – Prifysgol Bangor

BethCynhadledd undydd mathemateg ym Mhrifysgol Bangor
PwyI fyfyrwyr mathemateg blwyddyn 10
Pryd11 Gorffennaf 2023
I archebue.w.clode@bangor.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru yn falch o gyhoeddi cynhadledd undydd ym Mhrifysgol Bangor, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electroneg, Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT ar gyfer myfyrwyr Mathemateg galluog o ysgolion yng Nghymru. Fe’ch gwahoddir i ddod â 15 o fyfyrwyr o Flwyddyn 10. Y pwyslais fydd y gall mathemateg fod yn hwyl ac yn heriol.

Bydd Dr Colin Wright, Dr Megan Wyn Owen, Ifor Jones ac Explore yn cymryd rhan eleni.

Bydd gweithdai, sgwrs glo a chwis mathemateg gyda gwobrau.

Gobeithio y gallwch ddod â grŵp o tua 15 o fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn mathemateg. Bwriad y diwrnod yw apelio at eich mathemategwyr disgleiriaf ym Mlwyddyn 10.

Ni fydd unrhyw gost am y diwrnod i ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth, ac anfonir manylion pellach fel y gallwch wneud trefniadau ar ol i ni dderbyn y cofrestriad isod.

Eleni dim ond 100 o leoedd sydd gennym a fydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, felly fe’ch cynghorir i archebu’n gynnar.

Lle bo modd, sicrhewch fod rhaniad cyfartal rhwng myfyrwyr gwyrwaidd a benywaidd.

Anfonir cydnabyddiaeth ar ôl derbyn y wybodaeth isod.


I gofrestru anfonwch y wybodaeth isod at Elen Wyn Clode e.w.clode@bangor.ac.uk

Enw’r Ysgol:

Enw’r Athro:

Ebost yr athro:

Nifer o fyfyrwyr:

Nifer o staff:

Anfonir cydnabyddiaeth ar ôl derbyn y wybodaeth uchod.