Beth | Geogebra fel arf dysgu Mathemateg TGAU |
Pam | Athrawon CA3 a 4 |
Pryd | Tachwedd 2022 |
Sut | Ar-lein |
I archebu | b.h.denyer@swansea.ac.uk |
Mwy o wybpdaeth
Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno ffyrdd y gallai Geogebra fod yn ddefnyddiol mewn dosbarth Mathemateg TGAU. Dylai fod yn iawn i’r rhai sy’n newydd i’r feddalwedd. Nod y cwrs yw rhoi’r sgiliau angenrheidiol i gyfranogwyr gynhyrchu rhaglennig syml ond defnyddiol a fydd yn darlunio cysyniadau graffigol a geometrig.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy ddwy sesiwn Zoom gyda’r nos, rhwng ychydig wythnosau. Bydd cyfranogwyr yn gweithio gyda Geogebra yn ystod y sesiynau felly bydd angen iddynt gael mynediad, ar y cyfrifiadur y maent yn ei ddefnyddio ar gyfer y sesiwn, i un o fersiynau Geogebra y gellir eu llwytho i lawr (Classic 5 neu Classic 6) neu i’r fersiwn we.
Sesiwn 1 : Geogebra fel Adnodd Graffio
- Cyflwyno Geogebra
- Cynhyrchu Graffiau o ffwythiannau
- Ymchwilio i raddiannau a’r hafaliad y=mx+c
- Ymchwilio i graffiau a hafaliadau
Sesiwn 2 : Geometreg gyda Geogebra
- Ymchwilio pedrochr arbennig
- Ymchwilio Cylchoedd
- Geometreg Trawsffurfio
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal dros ddwy sesiwn prynhawn/nos 2 awr.
Sesiwn 1: Dydd Mawrth 8fed Tachwedd 6pm
Sesiwn 2: Dydd Mawrth 6ed Rhagfyr 6pm
Wrth archebu nodwch pa ddyddiadau yr hoffech fynychu.
Bydd gan y cwrs hwn uchafswm o 12 o gyfranogwyr. Mae RhGMBC yn bwriadu cynnal y cwrs hwn eto ym mis Mawrth a mis Ebrill 2023.