Dysgu Proffesiynol Dull Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered – Gorffennol

BethDysgu Proffesiynol Dull Ystafell Ddosbarth Wyneb i Waered
PwyAthrawon CA5
PrydMehefin/Gorffennaf 2022, Hydref a Rhagfyr 2022. I gael eu ailadrodd ym Mhehefin/Gorffennaf 2023.
SutAr-lein
I archebub.h.denyer@swansea.ac.uk

Mwy o wybodath

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i ddefnyddio’r Dull Wyneb i Waered, yn seiliedig ar ein Hymchwil Gweithredu.

Bydd y cwrs hefyd yn cyflwyno cyfranogwyr i Adnoddau Fideo Wyneb i Waered RhGMBC – Powerpoints, Fideos a Nodiadau Bwlch.

Yn dilyn y ddwy sesiwn gyntaf, bydd cyfranogwyr yn barod i ddechrau defnyddio’r Dull yn eu hymarfer. Bydd y drydedd sesiwn yn caniatáu adlewyrchu a rhannu ymarfer rhai wythnosau ar ôl dechrau a’r bedwaredd yn yr un modd ar ôl y rhan fwyaf o’r tymor.

Yn ogystal â’r sesiynau sydd wedi’u hamserlennu, bydd y tiwtor ar gael i roi cymorth drwy e-bost a galwadau ar-lein. Bydd grŵp hefyd yn cael ei sefydlu i gyfnewid syniadau, llwyddiannau a phryderon.

 TeitlDyddiad
1Theori’r Dull Wyneb i WaeredMercher 22 Mehefin 19:00- 20:30 neu Llun 27 Mehefin 16:00-17:30
2Ymarfer y DullMercher 6 Gorffennaf 19:00- 20:30 neu Llun 11 Gorffennaf July 16:00-17:30
3Gwireddu’r DullLlun 10 Hydref 16:00-17:30
4Datblygu’r DullLlun 12 Rhagfyr 16:00-17:30