Beth | Dysgu Mathemateg Uned 4 Ystadegaeth |
Pwy | Athrawon CA5 |
Pryd | Hydref i Ragfyr 2022 |
How | Ar-lein |
To book | b.h.denyer@swansea.ac.uk |
Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer cydweithwyr sydd wedi dysgu Mathemateg lefel UG ac a hoffai ddysgu Mathemateg lefel A2, ac ar gyfer cydweithwyr sydd eisoes yn dysgu Mathemateg lefel A2 ac a hoffai loywi eu gwybodaeth ar y modiwl.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i gydran Ystadegaeth y Modiwl Cymhwysol mewn Mathemateg A2 (Uned 4).
Byddwn yn cynnig Dysgu Proffesiynol ar fodiwl cymhwysol Mathemateg lefel UG, cydrannau Mecaneg UG ac A2 a modiwl Pur y cwrs lefel A2 yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd hon.
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros 6 wythnos ac yn cael ei gynnal fel sesiwn hybrid.
Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio ar gyfer y rhai na allant fod yn bresennol yn bersonol.
Bydd pob modiwl gwaith yn para 2-3 wythnos.
Ar ddechrau’r sesiwn byddwch yn derbyn pecyn adnoddau o ddeunyddiau astudio yn cynnwys
- PowerPoints esboniadol gydag ymarferion ac atebion
- Lle bo’n briodol, adnoddau geogebra neu excel
- PowerPoint ychwanegol yn cynnwys detholiad o gwestiynau arddull arholiad (heb atebion).
Bydd cyfarfod zoom cychwynnol i ymdrin â chysyniadau mwy cymhleth y sesiwn. Yna bydd y cyfranogwyr yn cael amser i weithio drwy’r pecyn adnoddau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfranogwyr yn cael mynediad e-bost at y tiwtor.
Tua hanner ffordd drwy’r sesiwn gobeithiwn drefnu cyfarfod zoom “galw heibio” gwirfoddol lle gallwch drafod y cynnwys gyda chydweithwyr eraill a/neu’r tiwtor.
Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfarfod zoom a’r gobaith yw y bydd pawb yn gallu mynychu. Yn ystod y sesiwn hon, bydd atebion i’r PowerPoint o gwestiynau arddull arholiad yn cael eu hystyried a bydd cyfleoedd i drafod unrhyw anawsterau sydd wedi codi.
Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog.