BethDysgu Mathemateg Uned 2 Ystadegaeth
PwyAthrawon CA5
PrydIonawr i Mawrth 2023
HowAr-lein
To bookb.h.denyer@swansea.ac.uk

Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer cydweithwyr sydd wedi dysgu Mathemateg TGAU , neu Fathemateg Bur UG ac a hoffai ddysgu Ystadegaeth UG, ac ar gyfer cydweithwyr sydd eisoes yn dysgu Mathemateg Ystadegaeth Safon Uwch ac a hoffai loywi eu gwybodaeth ar y modiwl.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i gydran Ystadegaeth y Modiwl Cymhwysol mewn Mathemateg lefel UG (Uned 2).

Byddwn yn cynnig Dysgu Proffesiynol ar gydrannau Mecaneg ar gyfer UG ac A2 a modiwl Pur y cwrs UG ac A2 y flwyddyn academaidd hon.

Mae pob sesiwn rhwng 6.30pm ac 8pm oni nodir yn wahanol 

Mathemateg Uned 2 (ystadegaeth) Cyflwyniad Galw heibio Olaf 
Sesiwn 1 Mercher Chwefror 8fed Iau Chwefror 16eg   (7- 8pm) Llun Chwefror 27ain 
Sesiwn 2 Iau Mawrth 2il (7-8.30pm) Iau Mawrth 23ain  (7-8pm) Llun Mawrth 27ain 

Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio ar gyfer y rhai na allant fod yn bresennol yn bersonol.

Bydd pob modiwl gwaith yn para 2 wythnos.

Ar ddechrau’r sesiwn byddwch yn derbyn pecyn adnoddau o ddeunyddiau astudio yn cynnwys

  • PowerPoints esboniadol gydag ymarferion ac atebion
  • Lle bo’n briodol, adnoddau geogebra neu excel
  • PowerPoint ychwanegol yn cynnwys detholiad o gwestiynau arddull arholiad (heb atebion).

Bydd cyfarfod zoom cychwynnol i ymdrin â chysyniadau mwy cymhleth y sesiwn. Yna bydd y cyfranogwyr yn cael amser i weithio drwy’r pecyn adnoddau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfranogwyr yn cael mynediad e-bost at y tiwtor.

Tua hanner ffordd drwy’r sesiwn gobeithiwn drefnu cyfarfod zoom “galw heibio” gwirfoddol lle gallwch drafod y cynnwys gyda chydweithwyr eraill a/neu’r tiwtor.

Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfarfod zoom a’r gobaith yw y bydd pawb yn gallu mynychu. Yn ystod y sesiwn hon, bydd atebion i’r PowerPoint o gwestiynau arddull arholiad yn cael eu hystyried a bydd cyfleoedd i drafod unrhyw anawsterau sydd wedi codi.

Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog.