BethDPMA 2021/2022
PwyMyfyrwyr yn dechrau paratoi ar gyfer arholiadau mynediad y Brifysgol
PrydRecordiadau a ryddhawyd ar ddydd Llun
SutRecordiadau o’r sesiynau
I archebufmspwales@swansea.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Rydym yn falch iawn o gynnig cyfle i fyfyrwyr ledled Cymru ddatblygu eu sgiliau datrys problemau a meddwl yn feirniadol yng nghyd-destun mathemateg.  Cyflwynir y gyfres hon fel cyfres o wyth fideo asyncronig, pob un yn para tuag awr ac yn cael eu cyflwyno gan diwtoriaid profiadol. 

10 Ionawr 2021 Geometreg Onglau, trionglau a chylchoedd 
24 Ionawr 2021 Cyfuniadeg Cyfrif 
7 Chwefror 2021 Algebra Dilyniannau a chyfres/ Polynomialau 
21 Chwefror 2021 Rhif Ffactorau Cysefin a logarithmau 
7 Mawrth 2021 Calcwlws Braslunio cromlin a differu/integru 
21 Mawrth 2021 Geometreg a Chyfuniadeg Bellach Trigonometreg/ Cyfres Binomial 
11 Ebrill 2021 MAT 1 Rhagarweiniad i Algebra 
25 Ebrill 2021 MAT 2 Geometreg a Chalcwlws 


Bydd y ddau fideo olaf yn canolbwyntio ar y Prawf Derbyn Mathemateg (MAT) sy’n ofynnol gan Brifysgol Rhydychen ar gyfer myfyrwyr sy’n gwneud cais am radd Mathemateg neu Wyddorau Cyfrifiadurol.  Fe’i defnyddir hefyd gan Goleg Imperial a Phrifysgolion Caerfaddon, Durham a Warwick ac fe’i cymerir ym mis Tachwedd 2022. Mae’r dulliau a’r ymagweddau’r papur hefyd yn briodol ar gyfer myfyrwyr sy’n ceisio am  Brawf Mathemateg TMUA  Caerfaddon, Caerdydd, Durham, Caerhirfryn, LSE, Nottingham, Sheffield, Southampton a Warwick.  Bydd hefyd yn rhoi myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cymwysiadau i gyrsiau gradd mewn Peirianneg; Meddygaeth neu Ffiseg y sgiliau i fynd i’r afael â chynnwys mathemategol y profion derbyn y gellir gofyn amdanynt (ENGAA; BMAT; PAT …).  

Bydd pob un o’r wyth fideo ar gael yn ddwyieithog. 

Y bwriad yw cynnig cefnogaeth bellach i fyfyrwyr wrth baratoi ar gyfer y profion derbyn hyn yn gynnar yn nhymor yr hydref 2022.  Bydd y sesiynau hyn yn fyw gyda mynediad at y recordiadau ar gael i’r myfyrwyr hynny y mae eu hymrwymiadau eraill yn eu hatal rhag ymuno â’r sesiwn. 

Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gofrestru i dderbyn y dolenni i’r gyfres hon trwy gwblhau’r ffurflen sydd ynghlwm a’i ebostio i Caron Flynn fmspwales@swansea.ac.uk  erbyn 13/12/21.