Dosbarthiadau Meistr Mathemateg 2022

Pwy yw’r trefnwyr?

Mae’r dosbarthiadau yn cael eu trefnu gan Raglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru mewn partneriaeth â Sefydliad Brenhinol Prydain Fawr (www.rigb.org) a Phrifysgol Abertawe (Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk))

Ble fydd y dosbarthiadau yn cael eu cynnal?
Fe’u cynhelir yn fyw ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. Bydd myfyrwyr yn gallu postio atebion neu gwestiynau mewn blwch sgwrsio. Ni chaniateir camerâu na meicroffonau. Ni fydd y sesiynau’n cael eu recordio. Bydd myfyrwyr yn cael deunyddiau dilynol. Copiir athrawon i bob cyfathrebiad â’r myfyrwyr.

Pam fod y dosbarthiadau yn cael eu cynnig?
Nod y dosbarthiadau meistr yw ysgogi ac annog pobl ifanc yn y grefft a’r arferion o fathemateg ac i ddatblygu synnwyr o fwynhad yn y pwnc.  A fyddech gystal â nodi na fwriadir i’r dosbarthiadau hyn gyfateb â’r cwricwlwm ysgol, ond, yn hytrach, ehangu meysydd gwybodaeth a diddordeb mathemategol y plant. Mae angen brwdfrydedd a dyfalbarhad, yn ogystal â gallu mathemategol i gymryd rhan.

Pwy all fynychu?
Disgyblion ym Mlwyddyn 9 neu 10 yn 2021/22 sydd â gallu mathemategol ag a farnwyd bod ganddynt botensial a diddordeb yn y dosbarthiadau.  Dylent fod yn gweithio ar lefel 6 neu uwch ar draws y rhan fwyaf o rannau o’r Cwricwlwm Cenedlaethol Mathemateg a bod yn yr ychydig y cant uchaf o’r boblogaeth o ran gallu mathemategol, ond nid o reidrwydd fel y’i mesurir gan lwyddiant arholiad.  Gofynnir i ysgolion i enwebu disgyblion ac wedyn cant wahoddiad personol gan RGMB Cymru i fynychu.

Dyddiadau ac amseroedd
Bydd cyfres o 4 darlith yn cael eu cynnig ar foreau Sadwrn 10:00-11.30 a 12:00-13:30, mae hon yn sesiwn ailadrodd a ni fydd disgwyl i ddisgyblion fynychu’r ddau. Bydd sesiynau ar ddydd Sadwrn 5, 12, 19 a 26 Mawrth 2022.

Presenoldeb
Mae derbyn y gwahoddiad yn golygu presenoldeb llawn.  A wnaiff rhieni roi gwybod drwy e-bost i Caron Flynn os bydd rhaid colli darlith oherwydd salwch, anffawd neu unrhyw reswm arall.

Offer angenrheidiol ac i ddod i bob darlith
Byddwn yn hysbysu trwy e-bost cyn y sesiwn.