Cyflwyniad i ddysgu Mathemateg Safon UG – Uned 1

BethCyflwyniad i ddysgu Mathemateg Safon UG – Uned 1
PamAthrawon CA5 newydd a chyfredol
PrydHydref i Ragfyr 2022
SutAr-lein
I archebub.h.denyer@swansea.ac.uk

Mwy o wybpdaeth

Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer cydweithwyr sydd wedi dysgu Mathemateg TGAU ac a hoffai ddysgu Mathemateg lefel UG, ac ar gyfer cydweithwyr sydd eisoes yn addysgu Mathemateg lefel UG ac a hoffai loywi eu gwybodaeth ar y modiwl.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i fodiwl Mathemateg Pur UG (Uned 1).

Byddwn yn cynnig Dysgu Proffesiynol ar y modiwl mathemateg gymhwysol lefel UG yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd hon.

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros 6 wythnos ac yn cael ei gynnal mewn 2 sesiwn hybrid.

Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio ar gyfer y rhai na allant fod yn bresennol yn bersonol.

Bydd pob modiwl gwaith yn para 2-3 wythnos.

Ar ddechrau’r sesiwn byddwch yn derbyn pecyn adnoddau o ddeunyddiau astudio yn cynnwys

  • PowerPoint esboniadol gydag ymarferion ac atebion
  • Lle bo’n briodol, adnoddau geogebra neu excel
  • PowerPoint ychwanegol yn cynnwys detholiad o gwestiynau arddull arholiad (heb atebion).

Bydd cyfarfod zoom cychwynnol i ymdrin â chysyniadau mwy cymhleth y sesiwn. Yna bydd y cyfranogwyr yn cael amser i weithio drwy’r pecyn adnoddau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfranogwyr yn cael mynediad e-bost at y tiwtor.

Tua hanner ffordd drwy’r sesiwn gobeithiwn drefnu cyfarfod zoom “galw heibio” gwirfoddol lle gallwch drafod y cynnwys gyda chydweithwyr eraill a/neu’r tiwtor.

Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfarfod zoom a’r gobaith yw y bydd pawb yn gallu mynychu. Yn ystod y sesiwn hon, bydd atebion i’r PowerPoint o gwestiynau arddull arholiad yn cael eu hystyried a bydd cyfleoedd i drafod unrhyw anawsterau sydd wedi codi.

Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog.