Mathemateg – oherwydd eich bod chi’n gallu!

BethGweithdy hanner diwrnod, gan adeiladu eich cariad a’ch chwilfrydedd at fathemateg. Byddwn yn archwilio rhai problemau mathemategol sy’n datblygu’r sgiliau mathemategol gwych rydych chi wedi’u hennill hyd yn hyn. Rhoi lle i chi archwilio harddwch a hwyl mathemateg oherwydd bod chi’n gallu am y tro cyntaf… dyma’r hanfod y sesiwn yma!
PamEgin fathemategwyr sydd newydd orffen blwyddyn 11 gyda chariad at fathemateg (hyd yn oed os nad ydych wedi penderfynu ar eich camau nesaf – dewch draw i fwynhau’r fathemateg).
PrydDydd Mawrth 5ed Gorffennaf yng Nghaerdydd*
Dydd Mawrth 5ed Gorffennaf yn Aberystwyth*
Dydd Mercher 6ed Gorffennaf yn Abertawe*
Dydd Mercher 6ed Gorffennaf ym Mangor*
Bydd pob sesiwn yn rhedeg o 9.45am tan 1pm,
*Union leoliadau/dyddiadau i’w cadarnhau
I Archebu

Beth yw Mathemateg Bellach? 

BethDisgrifiad: Sesiwn i unrhyw fyfyriwr sydd eisiau gwybod beth yw Mathemateg Bellach a pham ei fod yn ddefnyddiol gan edrych ar y cynnwys, yr arholiadau a strwythr y cwrs. Bydd hefyd yn edrych ar pam y gallai fod ei angen arnoch ar ôl blwyddyn 13 a pham os ydych chi’n caru mathemateg, efallai yr hoffech chi ei astudio oherwydd eich bod yn gallu!
PamMyfyrwyr sydd eisiau gwybod mwy am Fathemateg Bellach Safon UG ac A2.
PrydDydd Mercher 13eg Gorffennaf 6pm
Ar-lein
I Archebu

Hogwch eich pensiliau mathemategol!

I gael y manylion diweddaraf am y sesiwn hon, dilynwch y ddolen hon.

BethYn ystod y diwrnod hwn byddwn yn meddwl am Fathemateg neu Fathemateg Bellach Safon Uwch! Yn yr ysgol haf undydd byddwn yn cynnal amrywiaeth o sesiynau i’ch helpu i baratoi ar
gyfer eich astudiaethau mathemateg wrth i chi fynd i flwyddyn 12, gan dynnu llwch oddi ar eich cyfrifiannell!
Byddwn yn rhoi rhagflas i chi o’r hyn i’w ddisgwyl ac yn ail-ddeffro’ch ymennydd mathemategol ar ôl haf i ffwrdd! Byddwn yn gwneud rhywfaint o ddatrys problemau, yn edrych ar rai cysylltiadau STEM ac yn dangos mathemateg gwych i chi. Bydd y diwrnod hwn yn ffordd wych o baratoi ar gyfer dechrau unrhyw gwrs mathemateg blwyddyn 12.
PamUnrhyw fyfyrwyr sydd ar fin cychwyn mathemateg neu fathemateg bellach ym mlwyddyn 12.
PrydDydd Mawrth 30 Awst yn Abertawe*
Dydd Mawrth 30 Awst ym Mangor*
Dydd Mercher 31 Awst yng Nghaerdydd*
Dydd Mercher 31 Awst yn Aberystwyth*
Bydd pob sesiwn yn rhedeg rhwng 9.45am a 3pm, *Union leoliadau/dyddiadau i’w cadarnhau
I Archebu

Cofrestrwch isod gyda chyfeiriad e-bost sydd ddim yn un ysgol (efallai bydd yn dod i ben yn fuan!). Dewiswch hefyd pa sesiynau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Byddwch yn derbyn ebost gyda ffurflen ganiatâd i gwblhau eich archeb.