Cyflwyniad i Ddysgu Mathemateg A2 – Uned 3

BethCyflwyniad i ddysgu Mathemateg A2 – Uned 3
PamAthrawon CA5
PrydIonawr i Mawrth 2022
SutAr-lein
I archebub.h.denyer@swansea.ac.uk

Mwy o wybpdaeth

Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer cydweithwyr sy’n dysgu Mathemateg UG, ac ar gyfer cydweithwyr sydd eisoes yn dysgu Mathemateg A2 ac a hoffai loywi eu gwybodaeth o’r modiwl.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i’r modiwl Pur ym Mathemateg A2 (Uned 3).

Byddwn yn cynnig Dysgu Proffesiynol ar fodiwl cymhwysol Mathemateg A2 y flwyddyn academaidd hon.

Bydd pob sesiwn o 6.30 i 8pm.

Bloc un – Prawf; Trigonometry; Geometreg Gyfesurynnol a Dulliau Rhifiadol

18/01/2023 – Cyflwyniad

1/02/2023 – Galw heibio opsiynol i drafod y deunyddiau

15/02/2023 – Sesiwn llawn

Bloc dau – Cyfres; Differu ac Integru

01/03/2023 – Cyflwyniad

15/03/2023 – Galw heibio opsiynol i drafod y deunyddiau

29/03/2023 – Sesiwn llawn

Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio ar gyfer y rhai na allant fod yn bresennol yn bersonol.

Bydd pob modiwl gwaith yn para 2 wythnos.

Ar ddechrau’r sesiwn byddwch yn derbyn pecyn adnoddau o ddeunyddiau astudio yn cynnwys

  • PowerPoint esboniadol gydag ymarferion ac atebion
  • Lle bo’n briodol, adnoddau geogebra neu excel
  • PowerPoint ychwanegol yn cynnwys detholiad o gwestiynau arddull arholiad (heb atebion).

Bydd cyfarfod zoom cychwynnol i ymdrin â chysyniadau mwy cymhleth y sesiwn. Yna bydd y cyfranogwyr yn cael amser i weithio drwy’r pecyn adnoddau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfranogwyr yn cael mynediad e-bost at y tiwtor.

Tua hanner ffordd drwy’r sesiwn gobeithiwn drefnu cyfarfod zoom “galw heibio” gwirfoddol lle gallwch drafod y cynnwys gyda chydweithwyr eraill a/neu’r tiwtor.

Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfarfod zoom a’r gobaith yw y bydd pawb yn gallu mynychu. Yn ystod y sesiwn hon, bydd atebion i’r PowerPoint o gwestiynau arddull arholiad yn cael eu hystyried a bydd cyfleoedd i drafod unrhyw anawsterau sydd wedi codi.

Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog.