Beth | 🎄Sgwrs Nadolig Chweched Ddosbarth Ysgol Fathemateg ac Ystadegau’r Brifysgol Agored. |
Pwy | wedi’i hanelu at ddisgyblion blynyddoedd 12 a 13 |
Pryd | ddydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2023 |
Sut | zoom |
I archebu | https://forms.office.com/e/narZVzRtit Cofrestrwch cyn dydd Gwener 24/11/23. |
Mwy o wybodaeth
🎄Sgwrs Nadolig Chweched Ddosbarth Ysgol Fathemateg ac Ystadegau’r Brifysgol Agored. |
Mae hon yn sgwrs fathemateg flynyddol ar gyfer myfyrwyr y chweched ddosbarth, wedi’i threfnu gan Ysgol Fathemateg ac Ystadegau’r Brifysgol Agored, a fydd yn cael ei chynnal ddydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2023. Bydd hon yn sesiwn ryngweithiol, ar-lein, wedi’i hanelu at ddisgyblion blynyddoedd 12 a 13, sy’n astudio mathemateg. Thema sgwrs eleni fydd byd newydd a chyffrous gwyddoniaeth ddata, a bydd y sgwrs wedi’i chyflwyno gan Dr Sophie Carr, Gwyddonydd Data, Peiriannydd, a “Mathemategydd Mwyaf Diddorol y Byd”. Sophie yw Is-lywydd addysg a llythrennedd ystadegol y Royal Statistical Society, yn ogystal â sylfaenydd a chyfarwyddwr Bays Consulting. Teitl ei sgwrs fydd: “Tinsel ar y goeden, a data yn ein pen – Dyma’r tymor i fod yn llon! (yn ôl yr ystadegau)” Mae’r manylion llawn wedi’u nodi isod. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein dros Zoom, ac rydym yn gwahodd athrawon i gofrestru eu dosbarthiadau i gymryd rhan. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddwywaith ar y diwrnod, am 10:00-11:00 yn gyntaf, ac wedyn eto am 13:45-14:45. Gallwch gofrestru eich dosbarth i gymryd rhan yn unrhyw un o’r sesiynau hyn yma: https://forms.office.com/e/narZVzRtit Cofrestrwch cyn dydd Gwener 24/11/23. Gobeithiwn y bydd sgwrs eleni o ddiddordeb i chi a’ch myfyrwyr a’ch bod yn gallu ymuno â ni. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cofiwch gysylltu ar unwaith. stem-ms-outreach@open.ac.uk Tinsel ar y goeden, a data yn ein pen – Dyma’r tymor i fod yn llon! (yn ôl yr ystadegau) Sut all ystadegau a gwyddoniaeth ddata leihau straen a phoen y Nadolig? Yn y gweithdy rhyngweithiol hwn, byddwn yn craffu ar y data er mwyn canfod patrymau a thueddiadau cudd sy’n helpu i ledaenu hwyl yr ŵyl, wrth dawelu meddwl pawb. Felly beth am ymuno â ni am wibdaith lawen drwy fyd gwyddoniaeth ddata, er mwyn gweld sut allwch chi gofleidio eich mathemategydd mewnol, a sicrhau bod eich Nadolig yn fwy llawen nag erioed. Cefndir y siaradwyr: Dr Sophie Carr yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Bays Consulting. Cariad cyntaf Sophie oedd Lego, cyn symud ymlaen at awyrennau, ac mae ei gyrfa wedi dilyn hynny. Hyfforddodd fel peiriannydd, ac wrth weithio’n llawn amser, aeth ati i ymgymryd â PhD mewn Rhwydweithiau Cred Bayesaidd ac mae hi wedi gweithio yn y maes dadansoddi data byth ers hynny. Neu, mewn geiriau eraill, mae Sophie wedi gwneud bywoliaeth allan o ddod o hyd i batrymau. Y tu allan i’r gwaith, Sophie yw Is-lywydd addysg a llythrennedd ystadegol y Royal Statistical Society, yn ogystal â Mathemategydd Mwyaf Diddorol y Byd. |