Sgyrsiau Gyrfaoedd mewn Mathemateg

Sgyrsiau a gyflwynir yn eich ysgol

Mae myfyrwyr ysgol yn aml yn holi “Pam astudio mathemateg?” Mae’r sgyrsiau hyn yn rhoi ateb da, gan ddangos llawer o yrfaoedd amrywiol a diddorol sy’n defnyddio mathemateg: os ydych chi am liniaru newid yn yr hinsawdd, gwella’r GIG, dylunio ceir rasio, creu ffilmiau wedi’u hanimeiddio gan gyfrifiadur, dod o hyd i ffyrdd gwell o gynhyrchu dur ac ati yna mae mathemateg yn hanfodol. Mae’r sgyrsiau hefyd yn amlinellu’r llwybrau ar gyfer astudio mathemateg yn yr ysgol neu’r coleg, ac yn siarad am y math o fathemateg ddefnyddiol yr hoffech fynd ymlaen i ddysgu amdano yn y brifysgol, ac yn dangos sut i ddarganfod mwy am gyrsiau prifysgol posib ar-lein.

  • Cyflwynir gan un o’n Tîm yn eich ysgol
  • Grwpiau blwyddyn 10, 11 a 12 – wedi’u teilwra i bob blwyddyn
  • Defnyddir pynciau mathemateg bywyd go iawn
  • Gyrfaoedd lle mae angen graddau sy’n cynnwys llawer o Fathemateg
  • Sgorau prifysgol a gofynion mynediad prifysgol.

“Eisiau diolch i chi am y sesiynau gwych a gyflwynodd Ifor i’n myfyrwyr yn ystod y cyfnod heriol hwn. Fe wnaeth i’r disgyblion feddwl pam fod Mathemateg yn bwysig a sut gall eu gwersi Mathemateg fod yn berthnasol â chymaint o yrfaoedd gwahanol.  Maent wedi parhau i siarad am y sesiynau ar ôl y digwyddiadau sy’n arwydd da. Diolch eto

Emma Topliss, Rheolwr Dysgu – Adran Fathemateg , Ysgol Uwchradd Rhosnesni, Wrecsam

Darparwyd am ddim drwy RhGMBC

I drefnu sgwrs neu unrhyw gwestiynau ebostiwch rhgmbcymru@swansea.ac.uk gyda’r manylion isod:

Dyddiad:

Amser cychwyn, o ddewis:

Amser gorffen, o ddewis:

Cyfrwng Cymraeg,  Saesneg neu dwyieithog:

Nifer o staff:

Nifer o fyfyrwyr:

Grŵp blwyddyn: