BethMathemateg Bellach 4 – Cwrs Dysgu Proffesiynol
PwyAthrawon CA5
PrydMawrth i Gorffennaf 2023
SutHunan-astudio ar-lein a chyfarfodydd Zoom
I archebub.h.denyer@swansea.ac.uk

Mwy o wybodeaeth

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylw cynhwysfawr i MBU4 ac mae wedi’i anelu at athrawon sy’n cyflwyno Mathemateg Safon UG ar hyn o bryd yr hoffai ddysgu Mathemateg Bellach A2.

6 Sesiwn. 2 modiwl cymysg a 4 modiwl hunan-astuido.

Bydd pob sesiwn yn cael ei recordio ar gyfer y rhai na allant fynychu.

Bydd pob sesiwn o waith yn para 2-3 wythnos.  

Ar ddechrau’r sesiwn byddwch yn derbyn pecyn adnoddau o ddeunyddiau astudio yn cynnwys
·       PowerPoints esboniadol gydag ymarferion ac atebion
·       lle bo’n briodol, adnoddau geogebra neu excel
·       PowerPoint ychwanegol yn cynnwys detholiad o gwestiynau arddull arholiad (heb atebion).

Yn ystod y sesiwn bydd gennych fynediad e-bost at y tiwtor a gobeithiwn drefnu cyfarfod zoom “galw fewn” gwirfoddol lle gallwch drafod y cynnwys gyda chydweithwyr eraill a/neu’r tiwtor.  

Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfarfod zoom a’r gobaith yw y bydd pawb yn gallu mynychu. Yn ystod y sesiwn hon, bydd atebion i’r PowerPoint o gwestiynau arddull arholiad yn cael eu hystyried a bydd cyfleoedd i drafod unrhyw anawsterau sydd wedi codi.

Bydd y ddau modiwl cymysg hefyd yn cynnwys cyfarfod zoom i ddechrau y syniadau mwy cymhleth o’r modiwl.

Pynciau i gael eu trafod bydd(mae’n bosibl caiff rhain eu newid gan y tîm RhGMBC):

Dyddiadau: Sesiynau byw dydd Sadwrn, sesiynau o bell nos Fawrth

  • Sesiwn 1: Cyfres Pwer a Thrigonometreg  
  • Sesiwn 2: Rhifau Cymhlyg 
  • Sesiwn 3: Hyperbolics   
  • Sesiwn 4: Integreiddio  
  • Sesiwn 5: Matricsau a Phegynol   
  • Sesiwn 6:  Hafaliadau Differol

Cyflwynir sesiynau yn Saesneg; bydd deunyddiau ar gael yn ddwyieithog.