Dathlu Diwrnod Mathemateg y Byd 2022

Ymunwch am noson i ddathlu Diwrnod Mathemateg y Byd gyda’r Athro John Tucker and Dr Colin Wright

18:00 – 18:40 – Pwy oedd Robert Recorde, a beth wnaeth e? Yr Athro John Tucker

18:40 – 19:20 – Mathemateg mewn Twist, Dr Colin Wright.

19:20 – 19:40 – Sesiwn Holi ac Ateb gyda RhGMBC

Yn addas i unrhyw un sy’n hoffi mathemateg.

Pwy oedd Robert Recorde, a beth wnaeth e? Yr Athro John Tucker (Prifysgol Abertawe)

Mae Robert Recorde (c.1510-1558) o Ddinbych-y-pysgod, Sir Benfro, bellach yn cael ei gofio fel y dyn a ddyfeisiodd yr arwydd cyfartal =. Gwnaeth lawer mwy, wrth gwrs. Arloesodd gwaith Recorde y rôl newydd yr oedd syniadau a dulliau mathemategol a chyfrifiannol yn dechrau ei chwarae yng nghymdeithas ac economi Prydain ac Ewrop. Roedd twf data a gwybodaeth fathemategol mewn gweithgareddau ymarferol yn sbardun i gynnydd gwyddoniaeth fodern. Ef oedd mathemategydd Prydeinig mwyaf dylanwadol cyfnod y Tuduriaid, ac efallai mwyaf dylanwadol Cymru (hyd yn hyn).

Mae’r Athro Tucker yn wyddonydd cyfrifiadurol y mae ei ymchwil yn mynd i’r afael â’r hyn y gall pobl a pheiriannau ei gyfrifo a’r hyn na allant ei gyfrifo. Mae hefyd yn astudio datblygiad hanesyddol data a chyfrifiadura a’u dylanwad ar gymdeithas. Sefydlodd Gasgliad Hanes Cyfrifiadura’r Brifysgol a grŵp ymchwil newydd Abertawe o’r enw Sylfeini Addysgol, Hanesyddol ac Athronyddol Cyfrifiadura. Mae’r Athro Tucker hefyd yn arbenigwr ar hanes a threftadaeth gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru. Ers dod i Abertawe ym 1989, mae wedi gwasanaethu fel Pennaeth yr Adran Gyfrifiadureg (1994-2008), Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Ffisegol (2007-11), a Dirprwy Is-ganghellor (2011-19).

Mathemateg wedi troelli! Dr Colin Wright (Solipsys Ltd)

Mae llawer ohonom yn cael ein cyflwyno ar ryw adeg i Llain Moebius, y stribed hynod ddryslyd hwnnw gyda hanner tro sydd ag un ochr ac un ymyl yn unig, ac o’i dorri yn ei hanner nid yw’n gwneud yr hyn y gallech ei ddisgwyl. Yn y gweithdy hwn byddwn yn archwilio beth sy’n digwydd gyda throeon trwstan posibl eraill, a cheisio dod o hyd i ffordd o ddeall sut mae hyn yn gweithio, beth arall sy’n bosibl, ac a allwn wneud synnwyr o’r cyfan.

*Gallwch fwynhau’r sesiwn hon fel sgwrs i’w gwylio, neu mae croeso i chi dorri a throelli wrth i ni fynd ymlaen. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi bapur, siswrn a selotep yn barod mewn pryd ar gyfer sgwrs Dr Wright.*

Mae Dr Colin Wright yn gyd-sylfaenydd Solipsys Limited ac yn gyn Lywydd Cymdeithas Fathemategol Lerpwl. Mae Colin yn chwarae’r Game Of Go, piano ac yn gallu jyglo a beicio ar feic un olwyn yn ogystal â chael Ph.D. o Gaergrawnt mewn Cyfuniadeg a Theori Graff.

Mae’r digwyddiad am ddim, ond mae cofrestru’n orfodol.

Rhaid i blant dan 18 oed fynychu gyda rhiant neu warcheidwad, dim ond y rhiant/gwarcheidwad sydd angen cofrestru. Bydd y ddolen yn cael ei hanfon yn nes at y digwyddiad at yr holl fynychwyr sydd wedi cofrestru.

BethDigwyddiad ar-lein gyda’r nos wedi’i drefnu gan RGMBC. Sgwrs gan yr Athro John Tucker ar Robert Recorde a gweithdy hwyliog ymarferol Mathemateg yn Troelli gan Dr Colin Wright
PamTGAU a Safon Uwch/cyhoedd – unrhyw un sy’n hoffi mathemateg.
Pryd23 Mawrth 18:00-19:40
SutGweminar Zoom
I archebuCofrestru ar Eventbrite: Eventbrite

Mwy o wybpdaeth

Am ragor o wybodaeth: FMSPWales@swansea.ac.uk

Bydd hwn yn ddigwyddiad Saesneg