BethDysgu Proffesiynol MBU6 (Mecaneg Bellach)
PwyAthrawon CA5
PrydHydref 2022
HowAr-lein
To bookb.h.denyer@swansea.ac.uk

Mwy o wybodaeth

 Bydd y cwrs yn cael ei redeg mewn pum sesiwn:

Sesiwn 1: Ergyd a Momentwm 
Sesiynau 2 a 3 :  Momentau, Creiddiau màs a Stateg gwrthrych anhyblyg.
Sesiynau 4 a 5 : Hafaliadau Differol mewn Mecaneg, Cyflwyno Mudiant Harmonig Syml, Cinemateg o MHS, Osgiliadau anghyflawn, MHS wedi’i wanychu, Osgiliadau Gorfodol  

Bydd pob sesiwn o waith yn para 2-3 wythnos.  

Ar ddechrau’r sesiwn byddwch yn derbyn pecyn adnoddau o ddeunyddiau astudio yn cynnwys
·       PowerPoints esboniadol gydag ymarferion ac atebion
·       lle bo’n briodol, adnoddau geogebra neu excel
·       PowerPoint ychwanegol yn cynnwys detholiad o gwestiynau arddull arholiad (heb atebion).

Yn ystod y sesiwn bydd gennych fynediad e-bost at y tiwtor a gobeithiwn drefnu cyfarfod zoom “galw fewn” gwirfoddol lle gallwch drafod y cynnwys gyda chydweithwyr eraill a/neu’r tiwtor.  

Ar ddiwedd y sesiwn bydd cyfarfod zoom a’r gobaith yw y bydd pawb yn gallu mynychu. Yn ystod y sesiwn hon, bydd atebion i’r PowerPoint o gwestiynau arddull arholiad yn cael eu hystyried a bydd cyfleoedd i drafod unrhyw anawsterau sydd wedi codi.

Er mwyn cwblhau’r cwrs erbyn y Nadolig, cafodd y set cyntaf o adnoddau eu anfon allan cyn dechrau tymor y Hydref. Os hoffech mynychu, cysylltwch â Bethanie mor gynted ag sy’n bosib i ddechrau y cwrs yma.