Mawrth 14fed (3 14)
Pi yw y cymhareb o gylchedd cylch i ei ddiamedr h.y.
Caiff gwerth π (pi) ei wybod am bron 4000 o flynyddoedd. [Os cyfrifwyd y nifer o eiliadau o fewn 4000 blynedd a wedyn gweithio allan gwerth π i’r nifer yna o lefydd degol, byddai dal dim ond yn amcangyfrif i’r gwerth gwirioneddol o π.]
Mae gan un tabled Babilonaidd (ca 1900-1680 BCE) gwerth π = 3.125.
Rhodda’r “Rhind Papyrus” (ca 1650 BCE) mewnwelediad i Fathemateg Eifftaidd a fe wnaethant cynnig y gwerth o π = 3.1605.
Caiff y cyfrifiad cyntaf o π ei gyflawni gan Archimedes o Syracuse (287-212 BCE). Cynnigodd ei ddull gwerth o π oedd rhywle rhwng a
. Yn aml, caiff y gwerth
ei ddefnyddio o fewn ysgolion cyn y defnydd eang o gyfrifianellau. (Esbonia hyn pam caiff radiysau a diamedrau o gylchoedd bob amser eu rhoi gan lluosrifau o 7.)
Cyfrifodd Zu Chongzhi (429-501) o China, y gwerth o pi fel (nid oedd hyn yn bleserus i weithio â felly ni welwyd y werth yma’n aml ar ôl).
Cyflwyniwyd y symbol defnyddiwn i gynrychioli π gan y Cymro William Jones (Ynys Môn, 1675-1749) yn 1706. I ddechrau, nid oedd yn boblogaidd.
Daeth y symbol i fod yn fwy boblogaidd trwy Leonhard Euler (Swistirwr, 1707-1783) pwy death i ddefnyddio y symbol yn 1737.
Yn y ddeunawfed canrif, dyfeisiodd mathemategwr Ffrangeg o’r enw Georges Buffon (1707-1788) ffordd i gyfrifo π yn seiliedig ar debygolrwydd (gwelwch nodwydd Buffon).
Caiff π ei ddiffinio fel rhif anghymarebol sy’n golygu ni allwch ei ysgrifennu fel ffracsiwn union (pendrwm yn y lles yma). Golyga hyn ei fod yn rhif degolyn anfeidrol sydd ddim yn ailadrodd.
Faint o ddigidau sydd angen arnom ar gyfer cyfrifiadau?
Yn ysgol tueddwn i weithio â 3 digid y rhan fwyaf o’r amser (3.14).
Defnyddia NASA dim ond 15 digid ar gyfer π yn ei gyfrifiadau ar gyfer anfon rocedi i’r gofod. (Gwelwch y ffilm “Hidden Figures” amdano bywyd Katherine Johnson.)
I fesur y bydysawd i gywirdeb sy’n llai na maint atom byddech dim ond angen defnyddio y 40 digid cyntaf o π.
Mae’r tri pwynt olaf yma yn codi y cwestiwn o pam dylswn ymchwilio i mewn i gywirdeb π unrhyw bellach.
Teacher Resources on Line (cleavebooks.co.uk)
Gweler rhai dyddiadau nodedig mewn datblygiad π yn y tabl isod.
Dyddiad | Digidau | Sylwad |
≈2000 BCE | 4 | Babilonaidd |
≈800 BCE | 7 | |
480 CE | 8 | |
1400 | 10 | |
1596 | 20 | |
1706 | 100 | Cyflwyniwyd y symbol |
1853 | 261 | |
1853 | 440 | |
1946 | 620 | Yn bennaf gan law |
Ion 1947 | 710 | Y cyntaf gan gyfrfiannell desg |
1949 | 1120 | Yr olaf gan gyfrifiannell desg |
1949 | 2037 | Y cyntaf gan gyfrifiadur – 70 awr |
Ion 1958 | 10,000 | 1.7 awr |
1961 | 100,265 | 8.7 awr |
1967 | 500,000 | 28 awr |
1973 | 1,001,250 | 23.3 awr |
1981 | 2,000,036 | |
Ion 1987 | 134,214,700 | |
Awst 1989 | 1,011,196,691 | Y cyntaf i 1 biliwn |
29ain Ebrill 2009 | 2,576,980,377,524 | 29.09 awr |
28ain Rhag 2013 | 12,100,000,000,050 | 94 dydd |
14fed Awst 2021 | 62,831,853,071,796 | 108 dydd |